Dyn o Fae Colwyn yn cyfaddef i dair trosedd gwastraff anghyfreithlon
Mae dyn o Fae Colwyn wedi cael gorchymyn cymunedol o 12 mis gan Lys Ynadon Llandudno ar ôl cyfaddef i dri chyhuddiad yn ymwneud â gwastraff.
Plediodd Christopher Allan yn euog i weithredu cyfleuster wedi’i reoleiddio yn Ffordd Llanrwst, Bae Colwyn, heb drwydded nac esemptiad amgylcheddol; gwaredu gwastraff a reolir yn Ffordd Llanrwst, a chludo gwastraff a reolir heb drwydded cludydd gwastraff cofrestredig.
Ar 9 Gorffennaf 2019, aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i safle oddi ar Ffordd Llanrwst, Bae Colwyn, ar ôl derbyn adroddiadau o dipio anghyfreithlon yn yr ardal.
Canfu’r swyddogion nifer o achosion o waredu gwastraff gan gynnwys gwastraff gwyrdd fel toriadau leylandii, canghennau coed, dail; gwastraff cartrefi cyffredinol yn cynnwys bagiau bin, pren, cardbord, oergell, pwll gardd plastig, matresi a gwastraff adeiladu a dymchwel yn cynnwys teils, pibellau plastig, tiwbiau selio, rwbel a bwrdd plastr.
Holwyd Mr Allan ar y safle, a chyfaddefodd i waredu’r gwastraff gwyrdd, ond honnodd fod popeth arall wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon. Fe’i cynghorwyd i beidio gwaredu rhagor o wastraff ar y safle, ac i symud y gwastraff oedd yno’n barod i gyfleuster a ganiateir ar fyrder.
Ar ôl i CNC dderbyn adroddiadau o losgi yn Ffordd Llanrwst ar 14 Gorffennaf, canfu swyddogion dystiolaeth o losgi ac roedd y gwastraff a welwyd yn flaenorol ar y safle un ai wedi ei symud neu ei losgi.
Roedd y gwastraff a ddarganfuwyd ar y safle yn cynnwys nifer o gyfeiriadau, a phan gawsant eu holi gan swyddogion CNC, cadarnhaodd perchnogion y cyfeiriadau eu bod wedi trefnu i Mr Allan a pharti arall i symud y gwastraff.
Yn dilyn cyfweliad arall gyda Mr Allan ar 30 Gorffennaf, cyfaddefodd ei fod wedi gwaredu’r gwastraff gwyrdd yn ogystal â’r gwastraff yr enwyd Mr Allan fel y dyn a’i casglodd gan yr amryw unigolion/tystion. Derbyniodd Mr Allan hefyd nad oedd ganddo drwydded cludydd ddilys, a chadarnhaodd ei fod wedi llosgi’r gwastraff yn Ffordd Llanrwst.
Yn y gwrandawiad ar 27 Hydref 2020, cafodd Mr Allan orchymyn cymunedol o 12 mis gyda gofyniad i wneud 100 awr o waith di-dâl a gorchymyn i dalu £4,525 a Gordal Dioddefwyr o £90.
Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru CNC:
“Mae troseddau gwastraff yn effeithio ar iechyd pobl, eu cymuned a’r amgylchedd ehangach yn ogystal â thanseilio busnesau cyfreithlon.
“Rwy’n gobeithio bod y canlyniad hwn yn anfon neges i bawb sy’n ymwneud â storio a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon bod CNC yn cymryd y math hwn o weithgaredd o ddifrif, ac y byddwn yn cymryd y camau priodol bob amser er mwyn gwarchod ein hadnoddau naturiol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
“Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna byddwch yn ofalus, mae’n bur debygol fod y cludydd yn gweithredu’n anghyfreithlon ac yn gwaredu gwastraff lle gall wneud niwed i’r gymuned leol a’r amgylchedd.
“Fel arfer, mae cludydd gwastraff cyfreithlon yn codi tua £52 i gael gwared â bwndel maint cist car, tra byddai llwyth fan yn costio tua £166 a llwyth sgip cyfartalog tua £230.
“Os yw eich cludydd gwastraff yn codi llai, gofynnwch am gael gweld ei drwydded cludydd gwastraff, ac edrychwch ar gofrestr gyhoeddus CNC.”
Dylai unrhyw un sy’n amau bod gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn digwydd yn eu hardal roi gwybod amdano i CNC trwy’r llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000.