Cwblhau cynllun i adfywio Afon Pelenna
Mae prosiect i adfer Afon Pelenna yn ardal Afan, Castell-nedd Port Talbot, ac agor ardaloedd bridio ar gyfer pysgod mudol wedi cael ei gwblhau.
Dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar y gwaith yn 2019 i ddatgloi nifer o rwystrau ar hyd Afon Pelenna a oedd yn atal pysgod rhag cyrraedd gwelyau graean pwysig lle maent yn silio ac yn dodwy eu hwyau.
Yng ngham diweddaraf y prosiect cafodd cored a chwlfer eu haddasu er mwyn caniatáu i bysgod basio drwodd yn hawdd.
Mae cyfres o greigiau wedi'u gosod yn barhaol yn yr afon, ac yn gweithredu fel 'ramp creigiog' er mwyn gostwng uchder y rhwystr a chreu llwybr drwodd i bysgod. Mae bafflau derw hefyd wedi'u gosod o fewn cwlfer coedwigaeth i gynyddu dyfnder y dŵr drwodd a darparu ardaloedd gorffwys i bysgod.
Mewn gwaith blaenorol ar yr un rhan gwelwyd cynlluniau tebyg i gael gwared ar rwystrau i bysgod, ynghyd â gwaith i wella ansawdd y dŵr.
Meddai Suzanne Hearn, Arweinydd Tîm, Ecosystemau Dŵr Croyw a Rheoli Pysgodfeydd, o CNC:
“Mae gan CNC raglen uchelgeisiol o adfer afonydd sydd wedi cael eu haddasu ac i ailgyflwyno cynefin naturiol sydd wedi ei golli oherwydd gweithgarwch dynol yn y gorffennol.
“Gallai'r cynefin hwn sy’n cael ei adfywio fod yn hanfodol ar gyfer goroesiad rhywogaethau fel eogiaid, sydd mewn perygl cynyddol o ddiflannu o rai afonydd yng Nghymru.
“Mae'r gwaith diweddaraf ar Afon Pelenna yn cefnogi hanes hir o welliannau yn yr ardal, a gobeithiwn y bydd gwell mynediad i silfeydd mewn pryd yn gwella poblogaethau eogiaid yn lleol ac yn nalgylch ehangach Afon Afan.”
Mae Afon Pelenna yn is-nant Afon Afan. Mae hi wedi dioddef o lygredd mwyngloddiau ac ecoleg wael o ganlyniad i’w gorffennol diwydiannol.
Mae prosiectau blaenorol gan yr Awdurdod Glo ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, rhagflaenydd CNC, wedi gwella ansawdd dŵr, ond mae poblogaethau pysgod wedi methu ailsefydlu oherwydd y rhwystrau niferus sy'n eu hatal rhag cyrraedd silfeydd.
Mae’r addasiadau ffisegol i afonydd, fel coredau, yn dal i fod yn brif reswm pam y mae llawer o afonydd yn methu â chyrraedd statws ecolegol da, oherwydd yr effaith y mae’r rhain yn ei gael ar gynefin a rhywogaethau.
Mae'r prosiect wedi cael ei gynnal rhwng rhaglen Adfer Afonydd a Rhaglen Eogiaid Yfory CNC.
Cyfanswm y gost oedd tua £240,000 a chafodd ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer mawndiroedd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol.
Y flwyddyn ariannol hon, mae CNC wedi ymrwymo i wario £25m drwy Raglen Gyfalaf Argyfyngau Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys £1.2m ar gyfer prosiectau pysgodfeydd ledled Cymru.