Gwyrth ar y Gwastadeddau: Yr adar prin sy'n dychwelyd i dde-ddwyrain Cymru

Aderyn y Bwn yng Ngwlyptir Casnewydd

A ninnau yng nghanol argyfyngau natur a bioamrywiaeth, ac o weld y perygl o ddifodiant sy’n wynebu rhai rhywogaethau ledled Cymru, gall straeon am lwyddiant yn y byd cadwraeth roi llygedyn o obaith i ni ar gyfer y dyfodol.

Ymhlith y rhain mae hanes arbennig dau o adar corstir prinnaf y DU - adar y bwn a bodaod y gwerni – sydd wedi dychwelyd i Wastadeddau Gwent ger Casnewydd.

Ar un adeg yn y gorffennol, roedd adar y bwn ar fin diflannu’n llwyr, ond bellach maen nhw wedi bridio’n llwyddiannus am y bumed flwyddyn yn olynol yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, diolch i ymdrechion dyfal gan swyddogion a gwirfoddolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i’w gwarchod.

Cyn 2020, nid oedd adar y bwn wedi bridio ar Wastadeddau Gwent am o leiaf 200 mlynedd. Serch hynny, mae swyddogion wedi cofnodi pedwar nyth gwahanol yn y warchodfa yn ddiweddar. Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw gofnodion fod adar y bwn erioed wedi bridio yng Ngwent, ond mae'n bur debyg eu bod wedi bridio yno gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Drwy weithredu dros fyd natur, mae swyddogion a gwirfoddolwyr wedi gwneud nifer o welliannau i'r gwlyptiroedd dros y blynyddoedd sydd wedi helpu i greu'r cynefin gorau posibl i adar y bwn ffynnu.

Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys rheoli'r gwelyau cyrs yn ofalus a chyflwyno ffynonellau bwyd pwysig, fel pysgod bach fel pysgod rhudd a helpu llyswennod ifanc i fynd i mewn i'r gwelyau cyrs o Aber Afon Hafren.

Mae gwelyau cyrs y gwlyptiroedd hefyd wedi bod yn gynefin gwerthfawr i foda'r gwerni a’r titw barfog, sydd hefyd wedi bridio yn y warchodfa eleni.

Mae boda’r gwerni yn rhywogaeth sydd ar y Rhestr Ambr ac mae’n aderyn sydd wedi’i restru ar Atodlen 1 o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Er bod pryderon i gychwyn y gallai ysglyfaethwyr fod wedi achosi i unrhyw gywion ffoi o'r nyth, gwelwyd boda’r gwerni gwryw gan swyddogion CNC yn mynd â bwyd i ddau leoliad, gan awgrymu bod o leiaf ddau gyw, tua 30m a 60m o'r safle nythu gwreiddiol. Maes o law, fe wnaeth un cyw hedfan o’r nyth ac mae'n gwneud yn dda.

Meddai Kevin Boina M’Koubou Dupé, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: 

Mae'n wirioneddol anhygoel gweld yr adar hynod hyn yn ffynnu yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, ac yn llwyddiant ysgubol i'r rheini ohonom sydd wedi bod yn ymwneud â gwarchod cynefinoedd ar y safle ers amser maith. Mae eu gweld yn ffynnu am y bumed flwyddyn yn olynol yn dyst go iawn i'r ymdrech gadwraeth a wnaed gan y tîm, gan gynnwys ein llu o wirfoddolwyr.
Mae gwlyptiroedd yn gynefin pwysig sydd angen ein cymorth ni. Yn ogystal â chaniatáu i rywogaethau fel aderyn y bwn ddod yn ôl o ymyl y dibyn, gallant hefyd ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy storio carbon niweidiol a dal dŵr llifogydd yn ôl.

Yn wreiddiol, cyrhaeddodd boda’r gwerni Wlyptiroedd Casnewydd yn 2016 a magodd y pâr gwreiddiol 12 o gywion rhwng 2017 a 2022.

Dechreuodd ail bâr fridio yn y warchodfa yn 2023 gan lwyddo i fagu tri chyw a hedfanodd o’r nyth.

Dywedodd Chris Harris, Rheolwr Rhaglen Partneriaeth Tirwedd Lefelau Byw:

Mae’r ffaith bod yr adar eiconig hyn wedi dychwelyd i Wlyptiroedd Casnewydd a Gwastadeddau Gwent yn newyddion gwych. Mae'n enghraifft ysbrydoledig o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni o ran cadwraeth bywyd gwyllt ac yn dyst i waith caled staff a gwirfoddolwyr CNC.

Dywedodd Kirsty Lindsay, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yr RSPB:

Mae’n wych gweld aderyn y bwn a boda’r gwerni yn gwneud mor dda yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Mae CNC yn gwneud gwaith anhygoel yn rheoli cynefin y gwlyptiroedd fel y gall y rhywogaeth ddal i ffynnu. Mae’n wirioneddol arbennig gweld ymwelwyr wrth eu bodd o glywed a gweld gweithgarwch aderyn y bwn, ac mae eleni wedi bod yn well nag erioed gyda chymaint o bobl yn cael y cyfle i ddysgu amdanynt a’u gweld.

Rheolir y gwlyptiroedd gan CNC mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd.

I gynllunio eich ymweliad â Gwlyptiroedd Casnewydd, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd