Ymgynghoriad ar gyllun ar gyfer Coedwig Llanuwchllyn
Gofynnir i aelodau’r cyhoedd am eu barn ar reoli coedwig yng Ngwynedd yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Gynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Coedwig Llanuwchllyn ac yn gofyn i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid am eu barn a’u syniadau.
Bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo gwaith CNC o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac yn pennu amcanion tymor hir.
Cynhelir yr ymgynghoriad fel rhan o broses ardystio Cynllun Sicrwydd Coetir y Deyrnas Unedig i sicrhau bod syniadau ynghylch amcanion a rheoli’r goedwig yn y dyfodol yn cael eu cymryd i ystyriaeth.
Meddai Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd CNC:
“Mae CNC yn gweithio i sicrhau bod y goedwig yn cael ei rheoli’n gynaliadwy drwy’r cynllun hwn ac rydym eisiau gweld cymaint o bobl ag sydd bosibl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
“Rydym eisiau clywed barn aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid ynglŷn â’n cynlluniau, a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd.
“Byddwn hefyd yn annog partïon a chanddynt ddiddordeb i ddod i’n sesiwn galw heibio er mwyn gallu siarad yn uniongyrchol â swyddogion a rhannu eu barn a’u syniadau fel rhan o’n gwaith ymgysylltu cymunedol ehangach.
“Mae pawb yn elwa o gael coedwig sydd wedi’i rheoli’n dda; mae’n cynnig mannau gwyrdd y gall pobl eu mwynhau mewn ffordd gyfrifol, pren cynaliadwy, ac mae’n storio carbon ac o fudd mawr i’r fioamrywiaeth leol.”
Gallwch ddysgu mwy am ymgynghoriad Llanuwchllyn a dweud eich dweud yn Cynllun Adnoddau Coedwig Llanuwchllyn - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 26 Medi a 24 Hydref a bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher, 12 Hydref 2022, rhwng 3.30pm a 7.30pm yn Neuadd Llanuwchllyn, LL23 7TY.