Rhodfa Coedwig Cwm Carn yn ailagor heddiw!
Heddiw (dydd Llun 21 Mehefin) mae Rhodfa Coedwig Cwm Carn yn croesawu ymwelwyr yn ôl yn eu ceir, am y tro cyntaf ers chwech blynedd.
Gyda chyfnod gwyliau'r haf yn agosáu, bydd ymwelwyr yn gallu archwilio pob un o saith milltir Rhodfa’r Goedwig ar ei newydd newydd mewn car ar ôl cwblhau gwaith adfer a gwella mawr a wnaed mewn partneriaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Dros y 12 mis ddiwethaf mae'r Rhodfa Coedwig wedi cael ei datblygu'n sylweddol i greu atyniad sy'n hygyrch ac yn ddymunol i bob cynulleidfa. Ategir hyn gan y miliynau o bunnoedd a fuddsoddwyd i ddatblygu 'Llawr y Cymoedd' i wella'r maes gwersylla, y llyn poblogaidd a'r ardal gyfagos, gan wella profiad cyffredinol ymwelwyr.
Crëwyd sawl llwybr pob gallu newydd ar hyd y rhodfa, gan agor mynediad i'r goedwig i bawb, ynghyd â llawer o ardaloedd eistedd newydd ar gyfer ciniawau hamddenol.
Gall rhieni sydd eisiau ddifyrru eu plant edrych ymlaen at ddarganfod tair ardal chwarae newydd, ardal adrodd straeon, twnelau synhwyraidd a llwybr cerfluniau coetir.
Bydd caban pren gyda golygfeydd panoramig dros y cwm yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dysgu a lles yn yr awyr agored, tra bydd arwyddion gwybodaeth yn caniatáu i bobl lywio eu ffordd o amgylch y safle.
Dywedodd Geminie Drinkwater, Rheolwr Prosiectau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Coedwig Cwm Carn yn agos iawn at galonnau’r cymunedau o gwmpas Coedwig Cwm Carn. Mae gwireddu'r weledigaeth a'r syniadau o pobl lleol ar gyfer yr ailddatblygu wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn ac mae wedi bod yn fraint bersonol i mi weld y weledigaeth honno'n dod yn fyw yn y lle arbennig iawn hwn.
Mae ailagor heddiw yn garreg filltir arbennig i'r hyn a fu'n bartneriaeth wirioneddol lwyddiannus rhwng CNC, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r gymuned leol. Rwy'n falch iawn o weld y gatiau i Rodfa’r Goedwig ar agor unwaith eto heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at weld ymwelwyr, hen a newydd, yn darganfod ac yn mwynhau popeth sydd ganddo i'w gynnig am flynyddoedd lawer i ddod.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i reoli'r rhodfa mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden:
Mae heddiw'n ddiwrnod nodedig i ni weld y lle hardd ac unigryw hwn yn cael ei agor unwaith eto i'r gymuned. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud yn rhagorol ac mae gan y safle cyfan gymaint i'w gynnig i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect sydd mor agos at galon y gymuned, mae ei weld yn dod yn ôl yn fyw yn wych.
Pris mynediad i’r rhodfa fydd £8 i geir, £4 i feiciau modur, £15 i fysiau mini a £30 i goetsys. Dim ond arian parod ellir ei dalu wrth y rhwystr, neu gellir cael tocynnau o dderbynfa’r safle. Mae'r rhodfa’n gweithredu system un ffordd ac nid oes cyfyngiadau amser i ymwelwyr.