Data gan bysgotwyr o Gymru yn helpu i ddatgelu cyfrinachau siarcod mwyaf prin y DU
Mae dull newydd o gasglu data o amgylch arfordir Cymru ar rywogaeth sydd mewn perygl difrifol, sef y Maelgi, wedi profi’n llwyddiannus.
Cafodd data hanfodol a gyhoeddwyd mewn papur heddiw, 05 Gorffennaf 2022, ei gasglu’n bennaf gan bysgotwyr masnachol, hamdden a chychod siarter ar draws Cymru a Môr Iwerddon gan ddefnyddio dull a ddyluniwyd ar y cyd gan y gymuned bysgota a Phrosiect Maelgi: Cymru – prosiect dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a ZSL (Zoological Society of London).
Maelgwn yw un o’r teuluoedd siarcod a morgathod sydd dan y bygythiad mwyaf yn y byd, ac roedd nifer yn credu eu bod wedi diflannu o’n harfordiroedd. Mae’r papur yn datgelu gwybodaeth newydd am y rhywogaeth a sut mae’n defnyddio dyfroedd arfordirol o amgylch Cymru, gan gadarnhau bod poblogaeth bwysig o Faelgwn yn dal i fodoli yng Nghymru, a allai fod yn rhanbarth ar gyfer atgynhyrchu.
Mae’r data yn darparu sylfaen bwysig o ddealltwriaeth i gefnogi gwaith ymchwil parhaus yn edrych ar ecoleg y rhywogaeth a gweithio tuag at boblogaeth ffyniannus o Faelgwn yng Nghymru
Meddai Dr John O’Connor, Cadeirydd Angling Cymru ac Angling Cymru Sea Anglers (neu Ffederasiwn Genweirwyr Môr Cymru yn y gorffennol):
“Cyn Prosiect Maelgi: Cymru, nid oedd lle penodol i enweirwyr a physgotwyr gofnodi unrhyw Faelgwn yr oeddent yn eu dal. Maen nhw’n awyddus iawn i helpu gyda phrosiectau a rhannu data gyda gwyddonwyr er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r rhywogaeth oddi ar arfordir Cymru.
“Roedd genweirwyr sy’n rhan o’n sefydliad a chapteiniaid cychod siarter mor falch bod canlyniadau’n cael eu rhannu’n rheolaidd er mwyn iddynt allu gweld sut yr oedd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio. Mae’n wych gweld bod mewnbwn pysgotwyr wedi darparu gwybodaeth mor ddefnyddiol – rydym ni’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am Faelgwn yn y dyfodol.”
Mae maelgwn yn hynod o anodd eu hastudio gan eu bod mor brin a bod eu hymddygiad mor ddirgel. Maen nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser wedi’u claddu mewn gwaddodion meddal ar wely’r môr ac yn gallu cuddio’n dda iawn, gan eu gwneud yn anodd iawn i’w gweld mewn archwiliadau gweledol.
Mae’r cofnodion newydd yn cadarnhau bod Maelgwn yn defnyddio cynefinoedd bas o amgylch arfordir Cymru, gyda’r mwyafrif i’w gweld o fewn chwe milltir forol o’r arfordir. Gwelwyd y rhan fwyaf ohonynt oddi ar arfordir Pen Llŷn a Gogledd Orllewin Sir Benfro (1,279), gyda phresenoldeb nodedig hefyd i’w gweld ym Mae Caerfyrddin, Bae Conwy a chyrion allan Aber Afon Hafren. Roedd pobl fwyaf tebygol o’u gweld yn ystod mis Mehefin, Gorffennaf, Awst a Medi.
Meddai Joanna Barker, Biolegydd Morol ac Uwch Reolwr Prosiect gyda ZSL:
“Mae gweithio gyda physgotwyr wedi bod yn hanfodol er mwyn casglu gwybodaeth newydd am Faelgwn yng Nghymru. Mae gan bysgotwyr masnachol, hamdden a chychod siarter gymaint o wybodaeth am y moroedd lle maen nhw’n gweithio, nid oes modd i neb arall ddysgu’r wybodaeth hon yn yr un ffordd. Rydym ni’n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd amser i siarad gyda ni a rhannu eu cofnodion.
“Gyda chyfanswm o 2,231 o gofnodion, a 97% o’r rheini wedi’u darparu gan bysgotwyr, gallwn gadarnhau bod poblogaeth bwysig o Forgwn yng Nghymru – un o’r poblogaethau olaf sydd ar ôl yng Ngogledd ddwyrain yr Iwerydd.”
Ychwanegodd Jake Davies, Cydlynydd Prosiect Maelgi: Cymru ar ran CNC a ZSL:
“Ar ôl adolygu cofnodion y pysgotwyr, gallwn weld fod amrywiadau amgylcheddol yn chwarae rhan sylweddol o ran tebygolrwydd o ddod o hyd i Faelgwn mewn ardal benodol. Mae dyfnder a halwynedd y dŵr, crynodiad cloroffyl a’r tymheredd yn chwarae rhan. Mae’r data hefyd yn awgrymu y gallai Maelgwn symud yn nes at yr arfordir yn ystod yr haf i roi genedigaeth – ond mae angen tystiolaeth bellach i gadarnhau hynny.
“Diolch i’r pysgotwyr a phawb a fu’n cymryd rhan am eu gwaith caled – mae hyn wedi bod yn allweddol er mwyn datgelu gwybodaeth wych am Faelgwn, a fydd yn ein helpu i ddiogelu dyfodol y rhywogaeth yng Nghymru.”
Roedd data, gwybodaeth ac adborth pysgotwyr yn ganolog i’r cam hwn yn ein gwaith ymchwil. Maen nhw wedi rhannu eu cofnodion hanesyddol a chyswllt damweiniol â Maelgwn ers iddynt ddod yn rhywogaeth sy’n cael ei diogelu, gan arwain at gynnydd sylweddol yn ein dealltwriaeth ynglŷn â sut mae Maelgwn yn defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru.
Cynhaliwyd cyfarfodydd, cyfweliadau lled-strwythuredig ac adborth dwy ffordd rheolaidd, gan helpu pysgotwyr i rannu data am y rhywogaethau y maen nhw’n dod ar eu traws mewn gan alluogi Prosiect Maelgi: Cymru i’w dadansoddi’n wyddonol.
Llwyddodd 142 o adnoddau anecdotaidd ac archifau hefyd i ychwanegu cyd-destun pwysig, a ddefnyddiwyd i helpu dehongli canlyniadau ymchwil gwyddonol, yn dyddio’n ôl i 1812.
Mae llwyddiant y prosiect wedi arwain at greu Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities), a lansiwyd ym mis Chwefror eleni, sy’n ehangu’r gwaith i edrych ar bedair rhywogaeth: Maelgwn, Morgathod du, Cŵn pigog a Chŵn gleision. Mae’n cynnwys rhaglen eang i ysgolion a chyfleoedd pellach ar gyfer gwyddoniaeth dinasyddion ymysg cymunedau arfordirol. Mae’r gwaith yn adeiladu at greu ecosystemau morol cadarn yng nghyd-destun yr argyfyngau hinsawdd a natur.
Roedd y gwaith hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth On the Edge, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Rhwydweithiau Llywodraeth Cymru, sy’n cael eu dyrannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Hawlfraint y prif ddelwedd Jake Davies | JD Sgwba