Coed llarwydd heintiedig i gael eu cwympo mewn coedwig

Bydd coed heintiedig yng Nghoedwig Beddgelert, Gwynedd, yn cael eu cwympo i atal lledaeniad clefyd llarwydd.

Mae'r gwaith, a fydd yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dechrau ar 1 Gorffennaf am hyd at chwe mis mewn rhannau o'r goedwig sy'n dod i gyfanswm o 18 hectar.

Mae'n dilyn haint Phytophthora ramorum, a elwir hefyd yn glefyd llarwydd.

Cyhoeddwyd Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i CNC weithredu o fewn cyfnod penodol i reoli'r clefyd, a all ledaenu'n gyflym drwy goedwigoedd, gan ladd coed cyfan.

Meddai Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

"Er mwyn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt, mae’r ardaloedd sydd i’w cwympo wedi cael eu harolygu ac ni chanfuwyd unrhyw broblem.
"Unwaith y bydd rhannau o'r goedwig wedi'u cwympo, byddant yn cael eu hailblannu â rhywogaethau coed sy'n gallu gwrthsefyll y clefyd i helpu i gadw Coedwig Beddgelert yn iach am genedlaethau i ddod.
"Bydd pren o'r coed a gwympwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu, deunyddiau ffensio, pren paled a biomas.
"Rydym yn gofyn i ymwelwyr y goedwig gadw at lwybrau sydd wedi'u marcio, cymryd sylw o’r holl arwyddion ar y safle a chadw cŵn ar dennyn yn ystod y gwaith a hoffem ddiolch hefyd i aelodau'r gymuned leol am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth."

Bydd cyfyngiadau cludo pren a chwympo coed ar waith yn ystod y cyfnod, sy'n golygu na fydd coed yn cael eu torri na'u symud ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus.

Byddwch yn ymwybodol y gallech gwrdd â lorïau pren ar ffyrdd yn y goedwig ac ar y ffordd i'r goedwig yn ystod cyfnodau cludo.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd-orllewin Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch GweithrediadauCoedwigoeddGogleddOrllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk