Gwelliannau i strwythur hanesyddol Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae gwaith atgyweirio mewn cronfa ddŵr yng Nghonwy wedi helpu i ddiogelu ei strwythur a gwella'r ardal oddi amgylch i ymwelwyr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau gwaith yng Nghronfa Ddŵr Pen y Gwaith yng Nghoedwig Gwydir a oedd yn cynnwys gwaith cryfhau argloddiau, adeiladu strwythur gorlif newydd a gosod allfa â giât er mwyn gallu draenio’r gronfa ddŵr mewn argyfwng.
Roedd y gwaith yn y gronfa ddŵr, sy’n dal 12,500 metr ciwbig o ddŵr neu’r hyn sy’n cyfateb i bum pwll nofio maint Olympaidd, yn caniatáu i’r strwythur aros yn ei le. Ar yr un pryd byddai’n lleihau perygl llifogydd ac yn cynnal cyflenwad dŵr ar gyfer eiddo cyfagos.
Gwnaed y gwaith gan William Hughes Civil Engineering o Ynys Môn a hynny mewn dau gam, a chafodd y gwaith ei gwblhau yn gynharach eleni.
Roedd y gronfa ddŵr, a adeiladwyd yn 1850, yn cyflenwi dŵr i fwyngloddiau plwm uchel Hafna a Phen y Gwaith gerllaw i droi olwynion dŵr anferth a oedd yn pweru peiriannau cyn dyfodiad peiriannau oedd yn cael eu gyrru gan lo, trydan a disel.
Roedd y peiriannau'n draenio'r mwyngloddiau ac yn malu'r graig oedd yn cynnwys y plwm.
Yn ogystal â gwaith atgyweirio, mae mainc bicnic wedi ei gosod yn edrych dros y dŵr ynghyd â phanel dehongli sy’n egluro hanes y safle tra bod gwelliannau wedi eu gwneud i lwybr cerdded y goedwig sy’n rhedeg drwy’r safle.
Meddai Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau Tir ac Asedau Gogledd Orllewin Cymru CNC:
“Mae’r gwaith hwn wedi helpu i sicrhau bod darn o archeoleg ddiwydiannol Cymru yn cael ei gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac mae hefyd yn rhan o’n gwaith ehangach i sicrhau bod Cymru’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
“Mae’r gwaith hwn hefyd wedi diogelu cynefin ecolegol pwysig gan fod y gronfa ddŵr wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
“Rydym wedi gallu darparu manteision ychwanegol i ymwelwyr gyda mainc bicnic, gwell llwybrau cerdded a phanel gwybodaeth i’w helpu i fwynhau eu hymweliad.”