Arbenigwyr yn galw am weithredu brys i achub byd natur Cymru wrth i adroddiad newydd ddatgelu dirywiad arswydus mewn rhywogaethau

Ddeng mlynedd ar ôl ei gyhoeddiad cyntaf, mae adroddiad yn dangos bod natur yn parhau i ddirywio ledled Cymru. Mae’r adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 newydd yn datgelu graddfa ddinistriol colledion natur ledled y wlad a’r risg y bydd llawer o rywogaethau’n diflannu.

  • Mae 18% (un o bob chwech) o’n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu o Gymru, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid fel Tegeirian y Fign Galchog, Llygoden y Dŵr a Madfall y Tywod.
  • Mae toreth rhywogaethau tir a dŵr croyw wedi gostwng 20% ar gyfartaledd ledled Cymru ers 1994.
  • O bron i 3,900 o rywogaethau a aseswyd, mae mwy na 2% eisoes wedi darfod yng Nghymru.
  • Mae pwysau parhaus ar fywyd gwyllt yn golygu bod Cymru bellach yn un o’r gwledydd sydd wedi dirywio fwyaf o ran byd natur ar y Ddaear.
  • Mae Cymru wedi ymrwymo i dargedau uchelgeisiol i wyrdroi colled byd natur. Er bod rhywfaint o gynnydd, mae'r ymateb yn dal i fod ymhell o'r hyn sydd ei angen i ddelio â maint a chyflymder yr argyfwng.
  • Ond gall gweithredu dros natur wneud gwahaniaeth gyda straeon llwyddiant i rai rhywogaethau o ystlumod, Fôr-wenoliaid a rhai glöynnod byw.

Mae adroddiad newydd Sefyllfa Byd Natur 2023, a gyhoeddwyd heddiw, yn datgelu graddfa ddinistriol colledion byd natur ledled Cymru ac yn rhoi darlun manwl o sut gyflwr sydd ar fyd natur a beth sydd ei angen i'w achub. 

Yn awr, mae cadwraethwyr, gwyddonwyr ac arbenigwyr o fwy na 60 o sefydliadau yn galw am weithredu brys ledled Cymru.

Rhai o'r bywyd gwyllt sydd wedi dioddef y colledion mwyaf yn y boblogaeth yw'r pryfed, y fflora a'r mamaliaid y gallai pobl fod yn llai cyfarwydd â nhw. Mae rhywogaethau adnabyddus fel Eog yr Iwerydd a'r Gylfinir hefyd wedi dioddef prinhad difrifol yng Nghymru. Mae'r rhywogaethau hyn yn diflannu o'n moroedd a'n cefn gwlad. Mae’r dystiolaeth o’r 50 mlynedd diwethaf yn dangos bod newidiadau sylweddol a pharhaus yn y ffordd yr ydym yn rheoli ein tir ar gyfer amaethyddiaeth, ac effeithiau parhaus newid yn yr hinsawdd, ar dir ac mewn dŵr croyw, yn cael yr effeithiau mwyaf ar ein bywyd gwyllt.

Ar y môr ac o amgylch ein harfordiroedd, y prif bwysau yw llygredd, newid yn yr hinsawdd a gor-ecsbloetio hanesyddol gyda llai na hanner yr ardaloedd morol gwarchodedig mewn cyflwr ffafriol.

Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o gael eu colli o Gymru; mae mwy na 2% o bron i 3,900 o rywogaethau a aseswyd gan ddefnyddio meini prawf Rhestr Goch yr Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) eisoes wedi darfod. Yn ogystal, mae 11 rhywogaeth o adar wedi'u datgan yn ddiflanedig yng Nghymru. Mae gwyfynod, sy’n bryfed peillio pwysig, yn llawer llai niferus na 50 mlynedd yn ôl, ar ôl gostyngiad ar gyfartaledd o 43% ers 1970.

Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar sut mae colli byd natur yn effeithio ar bobl. Mae natur yn chwarae rhan hollbwysig ym mhob agwedd ar fywydau pobl; mae'n darparu'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta, y dŵr rydyn ni'n ei yfed a'r aer rydyn ni'n ei anadlu. Mae tystiolaeth sylweddol o ganlyniadau negyddol byw mewn gwlad sy'n brin o fyd natur. Dangosir ei fod yn llawer mwy cost-effeithiol i osgoi difrod o'r fath yn y lle cyntaf neu, lle mae difrod wedi digwydd eisoes, i adfer natur yn hytrach nag ysgwyddo costau diraddio parhaus. Mae mawndiroedd Cymru yn enghraifft wych o hyn. Mae ganddyn nhw’r potensial i fod yn storfa garbon enfawr ac yn arf pwysig yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ond eto mae 90% o fawndiroedd Cymru wedi’u difrodi neu eu diraddio. 

Meddai Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut yr ydym yn wynebu trobwynt hollbwysig yn yr argyfwng natur ledled Cymru. Problem genedlaethol, sydd angen gweithredu cenedlaethol. Ond rydyn ni’n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud; rydyn ni’n gwybod beth sy'n gweithio. Rhaid i lywodraethau, busnesau, cymunedau a’r cyhoedd weithio gyda’i gilydd yn awr ac ar fwy o frys yn gyffredinol os ydym am roi byd natur yn ôl lle mae’n perthyn. Mae angen inni fod yn uchelgeisiol ac ysbrydoledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ni arhosith natur ac ni ddylem ninnau chwaith.”
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd, mae Cymru’n dal i wynebu heriau ym maes cadwraeth bioamrywiaeth. Mae newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd, newidiadau mewn defnydd tir, rhywogaethau ymledol, a llygredd yn parhau i effeithio ar ein hecosystemau.”
“Mae CNC yn falch o weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r dystiolaeth orau sydd ar gael y gall pawb ei defnyddio i ddeall yn well sut mae natur yn newid ledled y DU, ac i ddefnyddio’r dystiolaeth honno i sbarduno gweithredu. Rhaid sicrhau bod ffyniant byd natur yn ymdrech ar y cyd ar draws y llywodraeth, busnes a chymdeithas. Dim ond gyda’n gilydd y gallwn roi Cymru ar sylfaen gadarn ar y llwybr i adferiad byd natur.”

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, gall gweithredu dros natur wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ystlumod yn dangos cynnydd cyfartalog o 76% ers 1998, gyda dwy rywogaeth yn arbennig yn gwella o'r niferoedd a ddisbyddwyd yn ddifrifol yn y 1990au, diolch i warchodaeth gynyddol y lleoedd y maent yn byw ynddynt. Mae glöynnod byw sy’n dibynnu ar reolaeth cynefinoedd arbenigol wedi dechrau adfer dros y degawd diwethaf, er bod y niferoedd yn parhau i fod yn llai na hanner yr hyn a oeddynt ym 1993.

Mae enghreifftiau o brosiectau rhywogaethau llwyddiannus yn yr adroddiad yn cynnwys gwarchod Môr-wenoliaid Bach yn Sir Ddinbych sydd wedi galluogi’r brif nythfa fridio Gymreig i ddod yn un o’r rhai pwysicaf ym Mhrydain, ac adfer mawndiroedd yng Ngheredigion sydd wedi cynnal poblogaeth Gweirloynod Mawr y Waun.

Mae awydd cyhoeddus cryf i warchod ac adfer byd natur yng Nghymru, fel y gwelwyd yn argymhellion cynulliad pobl Natur a Ni a lansiwyd yn ddiweddar, ymgynghoriad gan bartneriaeth adfer rhywogaethau Natur am Byth a Chynllun Natur Pobl y DU.

I lawrlwytho copi llawn o adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023 ac i ddarganfod beth allwch chi ei wneud i helpu, ewch i www.stateofnature.uk.