Erlyn ffermwyr ar ôl i storfa slyri gwympo a rhyddhau bron i 70,000 galwyn i mewn i nant yng Ngheredigion

Storfa Slyri wedi methu a slyri yn rhedeg i'r nant

Mae busnes fferm deuluol yn Fferm Rhydsais yn Nhalgarreg, Ceredigion wedi'i gael yn euog o drosedd amgylcheddol ar ôl i’w storfa slyri gwympo gan arwain at lygru o leiaf 12km o afonydd.

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) erlyn Rhydsais Cyf ar ôl i storfa slyri’r fferm gwympo ar 16 Chwefror 2022, gan ryddhau rhwng 60,000 a 70,000 galwyn o slyri i nant ddienw sy’n llifo i Afon Cletwr Fach. Dangosodd dadansoddiad samplau dŵr o'r ymchwiliad fod lefelau llygredd sylweddol yn ymestyn o Fferm Rhydsais i ble mae Afon Cletwr yn ymuno ag Afon Teifi, 12km i ffwrdd.

Mae'r nant ddienw yn llifo i Afon Cletwr Fach, sy'n llifo i Afon Cletwr, sy'n llifo i Afon Teifi yn y pen draw.

Yn wreiddiol, adroddwyd am fethiant y storfa slyri i CNC gan un o gyfarwyddwyr Rhydsais Cyf. Wedi hynny, fe wnaeth aelodau’r cyhoedd adroddiadau llygredd i CNC i lawr yr afon o'r fferm.

Cafodd swyddogion amgylchedd CNC eu dargyfeirio oddi wrth ddyletswyddau eraill i ymchwilio i'r digwyddiad ar y fferm ac i asesu'r effaith i lawr yr afon.

Ar ddiwrnod y digwyddiad, canfuwyd bod yr afon wedi'i dadliwio'n sylweddol a'i bod wedi ei gorchuddio ag ewyn, gydag arogl cryf o slyri.

Cafodd chwe physgodyn marw eu darganfod yn Afon Cletwr Fach y diwrnod wedi'r digwyddiad. Mae'n debygol bod hyn yn is na’r cyfanswm go iawn o bysgod marw gan fod y llygredd wedi achosi gwelededd gwael yn y dŵr, ac roedd llif uchel yn yr afonydd yn dilyn glaw.

Ddiwrnod wedi'r digwyddiad, fe wnaeth Dŵr Cymru rybuddio CNC eu bod wedi canfod lefelau anarferol o uchel o amonia yn eu safle tynnu dŵr yn Llechryd sy'n cyflenwi dŵr i eiddo yn ne Ceredigion. Cafodd y pwynt tynnu dŵr ei gau'n brydlon nes bod lefelau amonia wedi gostwng. Mae'n bosibl bod y lefel uchel o amonia wedi ei hachosi gan slyri Rhydsais yn llifo trwyddo.

Yn ystod yr ymchwiliad, datgelwyd bod y storfa slyri o dan sylw wedi bod ar y fferm ers y 1970au ac nad oedd unrhyw waith cynnal a chadw ffurfiol wedi digwydd ar wahân i archwiliadau gweledol yn ystod y degawd diwethaf. Dadleuodd CNC yn y llys bod y llygredd wedi'i achosi gan fod y storfa slyri yn rhy hen ac nad oedd wedi cael ei chynnal yn gywir.

Cafwyd Rhydsais Cyf yn euog o drosedd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Cawsant orchymyn i dalu cyfanswm o £13,035. Roedd hyn yn cynnwys dirwy o £5,000, gordal dioddefwr o £190 a £7,845 tuag at gostau CNC o ddod â'r erlyniad gerbron y llys.

Pwysleisiodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion, ddifrifoldeb y difrod amgylcheddol:
"Cafodd effaith y digwyddiad hwn ei theimlo ymhell y tu hwnt i'r nant yr aeth y slyri iddi. Fe wnaeth niweidio ansawdd dŵr a bywyd gwyllt lleol o fewn dalgylch Afon Teifi.
"Mae gan bob ffermwr ddyletswydd i sicrhau bod eu storfeydd slyri yn strwythurol gadarn i atal trychinebau o'r fath. Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi - gan gynnwys erlyn - pan fydd gennym dystiolaeth o achosion o’r fath.
"Rydym yn rheoleiddio ac yn gweithio gyda ffermwyr i osgoi niwed i'r amgylchedd ac rydym yn eu hannog i gysylltu â ni neu Cyswllt Ffermio i gael cyngor a chefnogaeth os oes angen."

Mae cyngor i ffermwyr ar gael ar wefan CNC: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/farming/?lang=cy.

Mae cymorth i ffermwyr ar gael drwy Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy