Ailganfod tegeirian y fign galchog yn nhwyni Talacharn – Pentywyn
Mae tegeirian prin, sy’n un o drysorau twyni tywod, wedi cael ei ddarganfod yn Nhwyni Talacharn – Pentywyn am y tro cyntaf ers bron i 20 mlynedd.
Mae ailddarganfod y tegeirian prin hwn (Liparis loeselii) yn dilyn blynyddoedd o waith cynllunio gofalus i reoli cadwraeth gan brosiect Twyni Byw a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid.
Cafodd Tegeirian y Fign Galchog ei gofnodi gan Gymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon (BSBI) yn gynharach y mis hwn, a hynny am y tro cyntaf ar y safle ers 2003.
Tristan Moss, aelod 11 oed o’r BSBI ddaeth o hyd i’r tegeirian, oedd yn ei flodau ac yn dwyn hadau, tra’r oedd yn cymryd rhan yn wythnos gofnodi flynyddol Sir Gaerfyrddin. Hefyd, darganfuwyd 5 planhigyn arall gan y criw o 16 aelod y BSBI : un planhigyn yn ei flodau ac yn dwyn hadau a’r pedwar arall heb flodau.
Cofnodwyd sawl rhywogaeth brin arall yn ystod y dydd gan gynnwys y Tegeirian Pêr (Gymnadenia densiflora), Hesgen Fannog (Carex punctata) a Thafod y Neidr (Ophioglossum vulgatum).
Meddai Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw:
“Mae’r darganfyddiad ardderchog hwn yn dilyn blynyddoedd o waith cadwraeth a rheoli a gynlluniwyd yn ofalus rhwng nifer o sefydliadau.
“Mae Twyni Byw, a fydd yn adfer mwy na 2,400 hectar o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig ar 10 safle gwahanol yng Nghymru, wedi bod yn gweithio’n agos â rheolwyr y safle, QinetiQ; ecolegwyr Sefydliad Seilwaith Amddiffyn (DIO); a Ruth Harding, Uwch Swyddog Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Gaerfyrddin, i dargedu ardaloedd allweddol i’w hadfer yn Nhwyni Talacharn – Pentywyn.”
Disgrifiodd Oliver Howells, Uwch Ecolegydd Sefydliad Seilwaith Amddiffyn, y gwaith sy’n digwydd yn Nhwyni Talacharn – Pentywyn fel ‘stori o lwyddiant gwirioneddol’.
Meddai Oliver:
“Mae ail-ganfod y rhywogaeth eiconig hon yn ddiweddglo i sawl blwyddyn o waith gan DIO a QinetiQ mewn partneriaethau â thenantiaid, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r prosiect Twyni Byw.
“Mae hon yn stori o lwyddiant gwirioneddol ac yn enghraifft ragorol o’r ymrwymiad hir dymor sydd ei angen i gefnogi adferiad natur ar y safle hwn ac ar safleoedd bywyd gwyllt pwysig eraill.”
Mae gwaith prosiect Twyni Byw eisoes wedi arwain at ganlyniadau ardderchog, fel yr eglura Laura:
“Rydym mor falch â chanlyniadau’r rhaglen clirio prysgwydd sydd wedi cael ei chwblhau ym Mhentywyn.
“Bydd prysgwydd a llystyfiant sy’n gordyfu yn cystadlu’n well na phlanhigion isel arbenigol y twyni, ond diolch i’r gwaith hwn sydd wedi’i gwblhau gall amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion fel Tegeirian y Fign Galchog ffynnu.
“Hoffem ddiolch hefyd i’n holl bartneriaid gan gynnwys ein contractwyr AJ Butler Contracting, sy’n gwneud gwaith trylwyr wrth ofalu am amgylcheddau sensitif, ac i BSBI, am eu gwaith monitro hanfodol ac am wneud y darganfyddiad ardderchog hwn.”