Prosiect pum mlynedd yn helpu i ddiogelu tirweddau a bywyd gwyllt dan fygythiad

Mae gwaith adfer ar gynefinoedd yn cwmpasu gwerth bron i 500 o gaeau pêl-droed wedi’i wneud ar dwyni tywod Cymru.

Mae prosiect Twyni Byw, sydd wedi’i ariannu gan yr UE ac sy’n cael ei gynnal arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dirwyn i ben ar ôl pum mlynedd o ail-greu symudiad naturiol mewn twyni tywod ac o adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’r mathau mwyaf prin o fywyd gwyllt yn y wlad.

Mae gwaith wedi’i wneud ar safleoedd yn cynnwys Tywyn Aberffraw, Niwbwrch, Morfa Harlech, Morfa Dyffryn, Twyni Talacharn-Pentywyn, Twyni Whiteford, Arfordir Pen-bre, Twyni Cynffig a Thwyni Merthyr Mawr.

Mae cyfanswm o 350 ha o waith wedi’i wneud, yn cynnwys adfer cynefinoedd, creu tywod moel ac ardaloedd pori newydd – sy’n cyfateb i 490 o gaeau pêl-droed.

Ymysg y buddion eraill mae adeiladu 29 km o ffensys a 23 cwningar artiffisial, tra bod pedair eitem o ordnans hyfforddi heb ffrwydro yn dyddio o’r Ail Ryfel Byd wedi’u digomisiynu.

Dyfarnwyd mai twyni tywod yw’r cynefin sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn Ewrop, ac maent yn cynnal dros 70 o rywogaethau sy’n brin yn genedlaethol neu sydd yn y Llyfr Data Coch.

Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd unigryw, gan gynnwys tywod moel ac sy’n symud, llaciau twyni gwlyb a glaswelltir twyni sefydlog, ac mae pob un o’r rhain yn sensitif i ddylanwadau yn sgil pobl a’r hinsawdd.

Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnal amrywiaeth fawr o rywogaethau prin ac arbenigol o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu cyfrif i fod dan fygythiad.

Mae llwyddiant y prosiect yn cael ei ddathlu o flaen Diwrnod Twyni Tywod y Byd ar 29 Mehefin, sy’n tynnu sylw at y tirweddau unigryw hyn.

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw ar gyfer CNC:

“Mae twyni tywod yn rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru ar gyfer bywyd gwyllt.

“Maen nhw’n gyforiog o fioamrywiaeth, yn gartref i ehedyddion soniarus, carpedi o degeirianau, rhywogaethau o’r galdrist a chrwynllys, yn ogystal â chyfoeth o anifeiliaid di-asgwrn cefn fel gloÿnnod byw, chwilod prin a gwenyn turio.

“Yn anffodus, mae llawer o dwyni tywod yng Nghymru mewn cyflwr gwael ac mae rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu am byth, yn sgil newid hinsawdd, llygredd aer ac effeithiau eraill gan bobl, neu yn sgil ddiffyg dulliau rheoli sensitif.

“Dim ond 8,000ha o dwyni tywod sydd ar ôl – 0.3 y cant o dir Cymru. Does dim modd ail-greu twyni tywod, ac mae eu ffurf a’u cynefinoedd yn rhai tu hwnt o arbenigol. Mae’r cyllid gan y rhaglen LIFE a Llywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae wedi rhoi cyfle i ni fynd i’r afael â’r materion hyn ar raddfa fawr.

“Ry’n ni’n hynod falch o’r gwaith sydd wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf.  Mae’r prosiect wedi creu dros 30 hectar o dywod moel newydd ar y twyni, ac mae hynny’n adfywio’r cynefin ac yn caniatáu i’r rhywogaethau prinnaf adsefydlu yno.

“Mae planhigfeydd conwydd, prysgwydd goresgynnol a rhywogaethau estron fel cotoneaster a rhafnwydden y môr yn llethu llystyfiant y twyni ac yn cael effaith negyddol ar lefelau maetholion a dŵr – felly mae clirio’r rhain yn adfer cynefinoedd agored y twyni.

“Mae codi ffensys yn caniatáu i’r twyni gael eu pori gan ferlod, gwartheg neu ddefaid er mwyn atal y llystyfiant rhag gordyfu.”

Mae tua 30 y cant o arwynebedd twyni tywod gwreiddiol Cymru wedi’i golli i ddatblygiad ac erydiad ers 1900, ac mae’r rhan fwyaf o’r gweddill wedi’i or-sefydlogi gan lystyfiant dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gan arwain at golled sylweddol o ran bioamrywiaeth.

Ychwanegodd Kathryn:

“Gall camau cadwraeth penodol fel hyn wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywyd gwyllt y twyni sydd dan fygythiad. Hoffwn ddiolch i reolwyr y safle a’n holl gydweithwyr a phartneriaid eraill a wnaeth y gwaith hwn yn bosibl.”