O Frwydr i Fawndir – Prosiect mawndir yn datgelu gynnau mawr o’r Ail Ryfel Byd, gan bontio'r gorffennol a'r dyfodol ar faes awyr yn Sir Benfro
Mae prosiect sy'n adfer mawndiroedd pwysig yn Sir Benfro wedi gwneud 200 o ddarganfyddiadau hynod ddiddorol ar Faes Awyr Tyddewi – bwledi â blaenau pren yn dyddio'n ôl i'r Ail Ryfel Byd pan oedd y maes awyr yn Ganolfan Reoli Arfordirol yr Awyrlu Brenhinol.
Bydd prosiect Corsydd Crynedig LIFE, a ariennir gan LIFE a Llywodraeth Cymru, a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gyflawnir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn Sir Benfro ac Eryri yn creu budd i saith ardal cadwraeth arbennig, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gors Crymlyn yn Abertawe.
Mawndir – ymateb gwych i argyfyngau’r hinsawdd a natur oherwydd ei allu anhygoel i storio nwyon tŷ gwydr niweidiol – mae 4% o Gymru’n fawndir ac mae’n dal 30% o’n carbon sydd yn y tir. Ar hyn o bryd, mae 90% o fawndir Cymru mewn 'cyflwr anffafriol' a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad uchelgeisiol yn ddiweddar i dreblu ei thargedau adfer mawndiroedd.
Ffordd effeithiol a chynaliadwy iawn o gynnal mawndir iach yw rhoi anifeiliaid i bori arno. Maen nhw’n cyfrannu drwy leihau ymlediad rhai planhigion a glaswelltau sy'n atal y mwsoglau pwysig sy’n adeiladu corsydd rhag tyfu a ffurfio'r mawn gwerthfawr.
Oherwydd hanes y maes awyr, roedd angen i brosiect Corsydd Crynedig LIFE ddod ag arbenigwyr mewn ordnans nad yw wedi ffrwydro (UXO) i sicrhau bod y ddaear yn ddiogel i’w chloddio ac i godi ffensys arni. Yn ystod yr arolygon amrywiol a gynhaliwyd gan gontractwyr UXO ar safle Tyddewi, daethpwyd o hyd i dros 200 o fwledi â blaenau pren.
Dywedodd arweinydd tîm y prosiect, Matthew Lowe:
Mae yna hanes mor gyfoethog yn y rhan hon o'r sir – yn ymwneud ag amaethyddiaeth a’r fyddin. Mae prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn falch iawn o fod yn darganfod y cysylltiadau hanesyddol hyn ac mewn sawl achos adfer ffyrdd hynafol o wella a rheoli'r dirwedd werthfawr hon.
Dywedodd Vicky Squire, Swyddog Prosiect Corsydd Crynedig LIFE Sir Benfro:
Yn amlwg, mae iechyd a diogelwch o'r pwys mwyaf wrth weithio ar dirweddau corsiog ac mae’n hysbys bod mawndir yn dal olion a chliwiau arbennig o'n gorffennol. Roedd disgwyl y byddai ambell fwled yn dal i fod allan ar safle'r prosiect - roedd yn anhygoel dod o hyd i fwy na 200! Erbyn hyn, mae'n ddiogel i osod y ffens a gallwn ddychwelyd y tir i borwyr lleol yn fuan.
Ers y gwaith, mae'r bwledi wedi cael eu cymryd gan y contractwyr UXO i gael eu gwaredu'n gyfrifol ac mae haneswyr ac archeolegwyr lleol wedi cael gwybod am y darganfyddiad diddorol hwn.
Dyma fideo byr o'r darganfyddiad: (1) Maes Awyr Tyddewi - Prosiect Corsydd Crynedig LIFE - YouTube
Dyma ychydig o wybodaeth ychwanegol am safle Maes Awyr Tyddewi gan bartneriaid y prosiect, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Maes Awyr Tyddewi - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Dilynwch brosiect ‘Corsydd Crynedig LIFE’ ar gyfryngau cymdeithasol.