Arferion rhywogaethau morfilod ac adar y môr ym moroedd Cymru wedi'u mapio mewn astudiaeth fawr
Mae astudiaeth arwyddocaol sy’n archwilio presenoldeb morfilod, dolffiniaid, llamhidyddion (morfilod) a rhywogaethau adar môr yn y moroedd o amgylch Cymru wedi’i chyhoeddi.
Yr astudiaeth hon yw’r casgliad mwyaf erioed o ddata arolygon a datblygiad mapiau dosbarthiad ar gyfer morfilod ac adar y môr ym moroedd Cymru.
Mae’n mapio’r rhywogaethau mwyaf cyffredin a geir yn nyfroedd Cymru ac o’u hamgylch, gan ddefnyddio data a gasglwyd o dri degawd o arolygon pwrpasol.
Mae gwyddonwyr morol o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud eu bod yn darparu llinell sylfaen hollbwysig o ddwysedd rhywogaethau, eu dosbarthiad ac achosion o’u gweld ac y bydd yn cael ei defnyddio fel adnodd allweddol ar gyfer cyngor cadwraeth, yn ogystal ag ar gyfer cynllunio a datblygu morol.
Dadansoddwyd cyfanswm o 12 o rywogaethau morfilod a 28 o rywogaethau adar y môr gan arbenigwyr o Sefydliad Gwylio'r Môr a Phrifysgol Bangor.
Dywedodd yr Athro Peter Evans a Dr James Waggitt, awduron yr adroddiad:
“Galluogodd data a gasglwyd o arolygon niferus y defnydd o dechnegau modelu uwch i ragfynegi niferoedd rhywogaethau penodol fesul mis, tymor a degawd, gan ddarparu golwg gynhwysfawr ar arferion y rhywogaethau hyn sy’n bresennol ym moroedd Cymru a’r cyffiniau.
“Roedd y rhain yn cynnwys y llamhidydd, y dolffin trwyn potel, y dolffin cyffredin, dolffin Risso, a’r morfil pigfain yn ogystal ag adar y môr fel aderyn drycin Manaw, y pedryn drycin, yr hugan, yr wylog, y llurs, a’r pâl.”
Comisiynwyd y gwaith gan Dr Tom Stringell, cynghorydd arbenigol arweiniol ar rywogaethau morol i CNC, a dywedodd, “Mae’r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth hollbwysig i’n helpu i reoli’r môr yng Nghymru.
“Mae’n darparu llinell sylfaen o ran ble mae’r bywyd gwyllt hwn a faint sydd yno a fydd yn hanfodol wrth ystyried effaith amgylcheddol unrhyw weithgareddau arfaethedig yn ogystal â sicrhau ein bod yn rhoi’r cyngor diweddaraf.”
Ychwanegodd Matthew Murphy, prif adarydd morol CNC:
“Mae gan Gymru gynefinoedd pwysig iawn ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau adar môr – mae gennym ni’r nythfa adar drycin Manaw fwyaf yn y byd ar ynysoedd Skomer a Skokholm, ac mae’r drydedd nythfa huganod fwyaf yn y byd ar Grassholm.
“Mae’r astudiaeth hon yn arwyddocaol ac yn darparu llinell sylfaen i’w defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn enwedig mewn cyngor cadwraeth.”