Nid yw'n rhy hwyr i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030, yn ôl pum corff natur blaenllaw’r DU
- Mae pum asiantaeth natur statudol y DU yn galw ar bob rhan o'r gymdeithas am fwy o weithredu a buddsoddiad mewn natur.
- Mae’r adroddiad yn argymell bod busnesau, sefydliadau, dinasoedd a llywodraethau yn mabwysiadu targedau i ddod yn Natur Bositif - gan roi sylw cyfartal i argyfwng colled bioamrywiaeth ac argyfwng newid yn yr hinsawdd.
- Mae Natural England (NE), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), NatureScot, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn argymell naw cam gweithredu i'w blaenoriaethu i gyflawni DU Natur Bositif erbyn 2030.
Mae mwy o weithredu, buddsoddi a manteisio ar atebion naturiol yn hanfodol i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030, dywed pum asiantaeth natur statudol y DU mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 22 Medi). Mae'n nodi un flwyddyn ers llunio Addewid Natur yr Arweinwyr, sydd wedi'i lofnodi gan dros 80 o Benaethiaid Gwladol o bob cwr o'r byd.
Mae Natural England (NE), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), NatureScot, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) wedi lansio adroddiad newydd ar y cyd - Natur Bositif 2030 - sy'n nodi sut y gall y DU fodloni ei hymrwymiadau yn Addewid Natur yr Arweinwyr, a sicrhau bod adferiad natur yn chwarae rhan hanfodol yn ein llwybr at Sero-Net.
Mae canfyddiadau'r adroddiad ar y cyd yn dangos y bydd cyflawni ymrwymiadau natur yn sicrhau buddion enfawr i iechyd pobl, lles a'n heconomi, a bydd angen newid trawsnewidiol ar draws cymdeithas ac yn y ffordd yr ydym yn amddiffyn, gwerthfawrogi, defnyddio ac ymgysylltu â natur. Mae adroddiad Natur Bositif 2030 yn tynnu ar gyfoeth o brofiad ac arloesedd yn y DU i gyflwyno atebion y gellir eu hehangu i gyflawni newid.
Mae'r adroddiad yn arddangos pwysigrwydd defnyddio atebion naturiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, gan dynnu sylw at rôl hanfodol natur wrth ein helpu i oroesi ein dyfodol ansicr, a phwysleisio bod gallu natur i wneud hynny yn dibynnu ar ecosystemau bioamrywiol sy'n gallu gwrthsefyll y newidiadau sydd o'n blaenau. Bydd gohirio gweithredu dros natur yn arwain at fwy o gostau economaidd a mwy o risgiau amgylcheddol.
Mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio rôl bwysig natur wrth gefnogi iechyd a lles pobl, fel sydd wedi dod i’r amlwg trwy gydol pandemig COVID-19.
Mae'n nodi'r blaenoriaethau a'r camau cyraeddadwy ar gyfer dod yn “Natur Bositif” – gan wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth - erbyn 2030 ac mae'n dod i'r casgliad nad ydym ar hyn o bryd ar y trywydd iawn i fod yn natur bositif erbyn 2030, ond bod y nod hwn yn gyraeddadwy. Mae'n argymell naw newid y gellir eu cyflawni'n gyflym, gan lywodraethau cenedlaethol a lleol, perchnogion tir, busnesau ac eraill a fydd yn cael effeithiau arbennig o fawr ar wrthdroi colli bioamrywiaeth yn y degawd hwn. Y rhain yw:
- Sicrhau bod bywyd gwyllt yn ffynnu mewn ardaloedd gwarchodedig ar dir ac ar y môr.
- Gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt yn well y tu allan i ardaloedd gwarchodedig, yn enwedig yr ardaloedd hynny a nodwyd fel rhannau o rwydweithiau natur neu fel seilwaith glas / gwyrdd pwysig.
- Buddsoddi mewn adfer a chreu cynefinoedd i gryfhau rhwydweithiau natur sy'n cyflawni ar gyfer bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.
- Sicrhau bod canlyniadau ar gyfer natur yn cael eu hintegreiddio mewn cynlluniau datblygu ar dir ac ar y môr.
- Mynd i'r afael â llygredd dŵr atmosfferig a gwasgaredig, yn enwedig oherwydd nitrogen ac amonia.
- Datblygu'r farchnad ar gyfer cyllid gwyrdd.
- Defnyddio atebion seiliedig ar natur yn ddiofyn ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd.
- Datblygu sylfaen dystiolaeth y DU fel ei bod yn barod i gefnogi'r newidiadau trawsnewidiol mwy sydd ar y gweill.
- Mabwysiadu targedau i ddod yn natur bositif.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen i roi’r un faint o sylw i’n huchelgeisiau ar gyfer adfer natur ag a rown i’r rhai ar gyfer newid hinsawdd - mae angen i'r unigolion, busnesau, dinasoedd a llywodraethau hynny sy'n ymdrechu i ddod yn Sero-Net ddod yn natur bositif hefyd, gan gynnwys trwy fabwysiadu targedau ar gyfer natur, a chymryd camau natur bositif megis trwy sefydlu cynefin bywyd gwyllt mewn deiliadau tir a gerddi, sicrhau bod natur yn cael ei gwella trwy gadwyni cyflenwi, a defnyddio'r pŵer yn ein waledi i ddewis opsiynau sydd o fudd i natur pan fyddwn yn prynu pethau.
Mae'r blaenoriaethau a nodwyd yn Natur Bositif 2030 yn ymwneud ag adeiladu dyfodol sy'n gyfoethog o ran ei natur, gydag ecosystemau wedi'u hadfer sy'n fwy gwydn yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac sy'n darparu mwy o fuddion i fwy o bobl.
Dywedodd cadeirydd Natural England, Tony Juniper:
“Mae adferiad natur o fewn ein gafael - gallwn ddod yn Natur Bositif erbyn 2030, ar yr amod ein bod yn gweithredu nawr. Mae angen ymagwedd natur uchel a charbon isel, gan fynd i’r afael ag argyfyngau colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd gyda’n gilydd, ac mae cyhoeddiad heddiw yn nodi sut y gallwn wneud hyn.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Penaethiaid Gwladol o lawer o wledydd, gan gynnwys o’r DU, wedi gwneud ymrwymiadau hynod bwysig i adfer natur, gan gydnabod bod hyn yn hanfodol i’n hiechyd, ein lles ac economi gynaliadwy, lewyrchus. Er mwyn cyflawni'r ymrwymiadau hyn, bydd angen newid trawsnewidiol ar draws cymdeithas ac yn y ffordd yr ydym yn amddiffyn, gwerthfawrogi, defnyddio ac ymgysylltu â natur. Credwn fod yr ymrwymiadau hyn yn gyraeddadwy ac mae ein hadroddiad yn dangos sut y gallwn lwyddo i ddod yn Natur Bositif erbyn 2030 fel carreg filltir hanfodol ar y llwybr i adfer natur yn llawn.”
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Adfer natur yw ein prif amddiffyniad yn erbyn dirywiad yr hinsawdd, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos uchelgais gyfunol pedair gwlad y DU i wneud hynny.
“Er bod amser yn brin, rydym yn gwybod y gall newid go iawn ddigwydd pan fydd llywodraethau, grwpiau ac unigolion yn gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn ein hinsawdd a'n byd naturiol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i'r ymdrech honno.
“Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogi sgyrsiau hanfodol ac yn sbarduno ton o weithredu ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled y byd, gan ddarparu esiampl i eraill o bwysigrwydd sicrhau twf amgylcheddol er budd cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Prif Weithredwr NatureScot, Francesca Osowska:
“Cyfrifoldeb pawb yw hi i fod yn bositif dros natur. Rydym yn gwybod bod cysylltiad mawr rhwng argyfyngau newid yn yr hinsawdd a cholli natur. Rhaid i ni daclo’r ddau yn gytun, yn hytrach na daclo’r naill na'r llall.
“Mae'r Alban yn barod daclo’r sialens sy'n ein hwynebu er mwyn i ni gyflawni ein huchelgais o ddyfodol natur bositif.
“Felly, wrth i ni baratoi ar gyfer COP26 yn Glasgow, mae hwn yn amser hanfodol i gymryd camau beiddgar a chadarnhaol dros natur a'r hinsawdd.”
Dywedodd Cadeirydd Cyd Bwyllgor Cadwraeth Natur, yr Athro Colin Galbraith:
“Mae hon yn flwyddyn allweddol i natur, i newid yn yr hinsawdd ac ar gyfer lles pobl yn y dyfodol.
“Mae'r adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad allweddol trwy ddangos sut y gall pob un ohonom helpu i gyflawni byd sy'n bositif dros natur. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ystod o astudiaethau achos o bob rhan o'r DU sy'n dangos sut rydym eisoes yn helpu adfywio natu. Er bod yr enghreifftiau hyn yn dangos yr hyn sy'n cael ei wneud, gall pawb chwarae rhan yn y dyfodol, gan helpu i gyflawni byd natur bositif erbyn 2030. Mae pob cyfraniad yn cyfri!
“Mwy bwysig oll, mae cyhoeddi’r adroddiad yn darparu sylfaen dystiolaeth o bob rhan o’r DU sy’n cefnogi’r gwaith i gyflawni cytundebau uchelgeisiol byd-eang ar gyfer newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth yn y cynadleddau byd-eang sydd ar ddod ar fioamrywiaeth ac ar newid yn yr hinsawdd.
“Mae’r adroddiad yn dangos bod y DU yn arwain trwy esiampl, a bod yr ymrwymiad i fyd Natur Bositive erbyn 2030 eisoes yn creu enghreifftiau o reolaeth natur bositif ar dir ac yn ein hardaloedd morol.”
Dywedodd Paul Donnelly, Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon:
“Mae natur iach yn ein cynnal. Fodd bynnag, mae ein bioamrywiaeth dan bwysau difrifol, ar adeg pan rydym yn ei angen mwyaf i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd.
“Mae sicrhau dyfodol bositif i natur ac adfer ein cyfalaf naturiol yn hanfodol i'n hiechyd, ein lles a'n ffyniant. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddiogelu, adfer ac ailgysylltu â natur. Mae adroddiad Natur Bositif 2030 yn dangos sut y gellir cyflawni hyn.
“Mae'r enghreifftiau, gan gynnwys y rhai o Ogledd Iwerddon, yn dangos bod gweithredu cadarnhaol yn digwydd ac yn cyflawni dros fyd natur a phobl. Mae angen i ni adeiladu ar y camau hyn - a'u cyflymu - er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu natur gydnerth heddiw, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yr adroddiad yn cefnogi gweithgareddau'r DU ar lefelau rhyngwladol a domestig, wrth i ni weithio i gyflawni cytundebau byd-eang uchelgeisiol ar gyfer newid hinsawdd a bioamrywiaeth yn COP26 a COP15, gan ddarparu'r sylfaen dystiolaeth i ddangos bod y DU yn arwain trwy esiampl.