Tirlithriad a glaw trwm yn achosi afliwiad brown yn Afon Gwy
Mae cyfuniad o law trwm a thirlithriad dros y penwythnos wedi achosi i rannau o afon Gwy droi lliw brown golau, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Digwyddodd y tirlithriad yn nalgylch Afon Ieithon - un o lednentydd Afon Gwy - ddydd Sul (12 Mai). Mae pridd a deunydd arall i ffwrdd o'r tirlithriad wedi achosi i'r dŵr newid lliw ac mae hyn wedi llifo o'r Ieithon i’r Gwy ei hun.
Dywedodd Jenny Phillips, Arweinydd Tîm Amgylchedd De Powys Cyfoeth Naturiol Cymru,
"Rydym wedi cael nifer o adroddiadau gan drigolion pryderus ar hyd Afon Gwy am afliwiad sydyn yr afon.
"Rydym wedi bod allan yn ymchwilio i achos y afliwiad, ac rydym yn hyderus ei fod wedi ei achosi gan dirlithriad yn nalgylch Afon Ithon a'r glaw trwm a gawsom ym Mhowys dros y penwythnos.
"Gwelsom fod yr afon yn rhedeg yn glir uwchben lle mae'r Ieithon yn ymuno ag Afon Gwy.
"Rydyn ni'n disgwyl i'r afliwiad stopio'n naturiol gydag amser, ac mai dim ond ychydig iawn o effaith tymor byr fydd yr afliwiad yn ei gael ar iechyd yr Ieithon neu'r Gwy."
Mae CNC yn annog pobl i roi gwybod am unrhyw achosion o lygredd a amheuir i'r llinell ddigwyddiadau 24/7 ar 0300 065 3000, neu drwy ddefnyddio'r adnodd adrodd ar-lein.
Archwilio mwy
Yn yr adran hon hefyd
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.