Digwyddiad BogFest cyntaf erioed yng Nghors Fochno eleni
Bydd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE (CNC) Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ei ddigwyddiad BogFest cyntaf erioed yng nghyforgors Cors Fochno ddydd Sadwrn 4 Mehefin 2022.
Bydd y digwyddiad, wedi’i drefnu ar y cyd â Chanolfan Gymunedol Cletwr, yn dathlu’r gors a’i phlanhigion a bywyd gwyllt pwysig, yn ogystal â’r rôl mae wedi’i chwarae mewn llên gwerin leol.
Bydd ymwelwyr sy'n mynychu'r digwyddiad am ddim yn cael eu diddanu gan y storïwr lleol Peter Stevenson, a bydd gweithgareddau gwneud clai lle bydd plant yn gallu creu eu cerflun bach eu hunain wedi'i ysbrydoli gan y bywyd gwyllt neu'r planhigion y byddant yn eu gweld ar y diwrnod.
Meddai Jake White, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru: "Eleni, bydd y prosiect yn dathlu pwysigrwydd Cors Fochno o safbwynt amgylcheddol a diwylliannol, ac mae croeso i bawb."
Mae cyforgorsydd mawn nid yn unig yn gartref i fywyd gwyllt prin, ond maen nhw hefyd yn darparu llawer o'r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw fel dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, modd i storio carbon, ac maen nhw hefyd yn llefydd gwych i bobl fwynhau'r awyr agored.
Cors Fochno yw un o'r cyforgorsydd mwyaf yn iseldir Prydain sy'n dal i dyfu, gyda mawn hyd at 8 metr o ddyfnder mewn mannau. Mae wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) oherwydd ei phwysigrwydd amgylcheddol rhyngwladol.
Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30am yng Nghletwr a gallwch rannu ceir i deithio i Gors Fochno. Bydd dwy sesiwn i ymuno â nhw yn ystod y dydd, y cyntaf am 9.30am a'r ail am 12.30. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://cletwr.com/cymraeg/