Prosiect mawndiroedd yng Nghymru’n ymuno â Phrosiect y Wasg Mawndiroedd Fyd-eang (GP3)
Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, yw’r partner diweddaraf i ymuno â rhwydwaith byd-eang o sefydliadau yn cychwyn ar gydweithrediad cyfathrebu.
Bydd y prosiect yn rhannu pwysigrwydd a gwerth mawndiroedd fel datrysiad seiliedig ar natur gyda golwg ar frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac i ddathlu llwyddiannau gwaith adfer mawndiroedd.
Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, a ariennir gan Raglen LIFE yr UE a Llywodraeth Cymru, yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.
Nod y prosiect yw adfer saith o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael eu hadfer i gyflwr gwell. Mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.
Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wael ar gwlyptiroedd yn y gorffennol ac mae hyn wedi peri i'r safleoedd sychu a chaniatáu i blanhigion ymledol gymryd drosodd, a chymryd lle planhigion pwysig fel migwyn, gwlithlys a hesg prin.
Migwyn yw sylfaen cyforgorsydd ac wrth iddo bydru’n araf dan amodau dwrlawn mae'n ffurfio pridd mawn brown tywyll. Mae amrywiaeth o figwyn yn arwydd o gors iach, ac mae'r mawn y mae'n ei greu yn amsugno ac yn storio’n naturiol dunelli o garbon o'r atmosffer, gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae mawndiroedd sydd mewn cyflwr da yn darparu llawer o'r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt: dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, storfeydd ar gyfer carbon o'r atmosffer, ac maen nhw hefyd yn lleoedd gwych i bobl fwynhau'r awyr agored.
Bydd bywyd gwyllt hefyd yn elwa o'r gwaith adfer hwn, er enghraifft bydd ardaloedd bwydo ar gyfer adar fel y pibydd coesgoch a’r gïach cyffredin yn cynyddu, a bydd creu pyllau migwyn bas yn golygu mannau bridio perffaith ar gyfer infertebratau prin fel y fursen fach goch yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.
Dywedodd Patrick Green, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae ymuno â’r GP3 yn gam cyffrous i’r prosiect ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfrannu trwy godi ymwybyddiaeth o’n gwaith adfer yma yng Nghymru.”
Ychwanega: “Mae hefyd yn wych gweithio ar lefel leol yng Nghymru yn y cymunedau lle mae safleoedd ein prosiect, yn ogystal ag yn fyd-eang er mwyn codi ymwybyddiaeth o rôl mawndiroedd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.”
Dechreuodd y broses o gyfnewid straeon o brosiectau mawndir ledled y byd gyda'r DU fel lleoliad COP26, Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd.
Bydd yr ymdrech ar y cyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mawndiroedd i'r blaned ac yn canolbwyntio ar y gwahanol ffyrdd y mae sefydliadau ar draws y byd yn gweithio er mwyn eu gwarchod, eu hadfer a'u rheoli'n gynaliadwy wrth inni gychwyn ar Ddegawd Adfer Ecosystemau'r Cenhedloedd Unedig.
Nod y Degawd Adfer Ecosystemau yw rhwystro, atal a gwrthdroi dirywiad ecosystemau ar bob cyfandir ac ym mhob cefnfor.
Dywedodd Dianna Kopansky, Cydlynydd Mawndiroedd Byd-eang ar ran y GPI: “Mae cydgysylltu er mwyn codi ymwybyddiaeth o botensial mawndiroedd iach ar gyfer gweithredu ar ran yr hinsawdd, amddiffyn natur a’n lles cyffredinol yn hanfodol. Mae mawndiroedd yn ecosystem sy’n cael ei hesgeuluso a thrwy roi sylw i’r ymdrechion anhygoel sy’n digwydd i adfer mawndir ledled y byd, rydyn ni’n gobeithio ysgogi cyfleoedd ac ysbrydoli camau gweithredu.”
“Mae cadwraethwyr mawndir o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd i rannu eu straeon am y gwaith maen nhw'n ei wneud a'r gwaith sydd angen ei gwblhau er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae’r GPI yn croesawu'r ymdrech gyfathrebu gydlynol hon gan ein partneriaid ym maes mawndiroedd. Gyda'n gilydd, yn ystod COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd, byddwn yn tynnu sylw at adfer mawndiroedd, a thrwy gydol y Degawd Adfer Ecosystemau."
Ymunwch â ni - rhannwch, dysgwch, ysbrydolwch, profwch a gweithredwch dros fawndiroedd, dros bobl a'r blaned. Dilynwch a rhannwch gan ddefnyddio #PeatlandsMatter a #GenerationRestoration.