Ymchwiliad i lygredd yn Llangennech yn dod i ben heb unrhyw gamau pellach
Mae ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i’r achos o drên nwyddau yn dod oddi ar y cledrau ger Llangennech ddydd Iau, 26 Awst 2020, a’r gollyngiad diesel a’r tân a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny, wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar gyfer sicrhau euogfarn ac y byddai ceisio gwneud hynny’n ddefnydd afradus o arian cyhoeddus.
Roedd yr ymchwiliad i achos y digwyddiad yn gymhleth ac yn drylwyr. Roedd yn cynnwys cynnal ymchwiliad i nifer o wahanol gwmnïau, gyda'r bwriad o erlyn y rhai fu'n gyfrifol am y difrod amgylcheddol a achoswyd i'r ardal amgylchynol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw obaith realistig o erlyniad llwyddiannus yn erbyn unrhyw gwmni nac unigolyn. O ganlyniad ni fydd unrhyw gyhuddiadau'n cael eu dwyn yn erbyn unrhyw un a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Cafodd y digwyddiad sylweddol hwn effaith andwyol iawn ar safle a warchodir yn rhyngwladol yn ogystal ag effeithio ar fusnesau lleol a thwristiaeth. Cafodd pysgodfeydd cregyn eu cau am saith wythnos fel mesur gofal yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bu'r rhan o'r rheilffordd ar gau am saith mis.
Cafodd trychineb amgylcheddol ei osgoi diolch i waith helaeth a wnaed fel rhan o ymgyrch adfer gan y contractwyr, Adler & Allan Ltd, ar ran DB Cargo a'u hyswirwyr, gyda chymorth Jacobs ar ran Network Rail, a chymorth technegol gan CNC, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, yr Awdurdod Glo, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau’r De Orllewin, CNC:
“Er bod tystiolaeth gref yn nodi’r hyn oedd yn debygol o fod yn gyfrifol am achosi i’r trên ddod oddi ar y cledrau, a’r effaith a gafodd hynny ar yr amgylchedd, ni fu’n bosibl penderfynu pwy oedd yn gyfrifol yn y pen draw am achosi i’r trên ddod oddi ar y cledrau.
“Rydym wedi ymchwilio i bob trywydd posibl fel rhan o’r archwiliad, ond er hynny, nid oes digon o dystiolaeth i sicrhau unrhyw obaith realistig o ddwyn achos yn erbyn unigolyn neu gwmni penodol.
“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd a siomedig i CNC ei wneud. Bydd effaith y digwyddiad hwn i'w deimlo yn yr amgylchedd am flynyddoedd i ddod.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gallu i ymateb yn gyflym i’r digwyddiad, yn ogystal â’r rhai fu’n rhan o’r ymgyrch i adfer y safle. Fe hoffwn ddiolch hefyd i bawb o’n timau o fewn CNC a gyfrannodd cymaint. Gweithiodd pawb yn ddiflino i leihau effeithiau hirdymor y digwyddiad hwn ar yr amgylchedd.”