Arestio dyn am losgi gwastraff yn anghyfreithlon
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llosgi gwastraff yn anghyfreithlon yn ardal Llanelli, yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae mwg o'r gwastraff sy'n llosgi wedi achosi pryder i bobl sy'n byw yn y cyffiniau.
Mae CNC yn gweithio gyda'i asiantaethau partner, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys i fynd i'r afael â throseddau gwastraff ledled y sir ac mae wedi apelio at y cyhoedd am gymorth.
Dywedodd Pippa Sabine, Swyddog Taclo Troseddau Gwastraff CNC:
"Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir yna byddwch yn ofalus, mae'n debygol iawn bod y cludydd yn gweithredu'n anghyfreithlon ac yn dympio gwastraff lle bydd yn niweidio'r gymuned leol a'r amgylchedd.
"Ar gyfartaledd mae cludydd gwastraff cyfreithlon yn codi tua £52 i gael gwared â bwndel o faint cist car tra byddai llwyth fan yn costio £166 a llwyth sgip cyfartalog o gwmpas £230.
"Os codir llai arnoch chi, yna gofynnwch a ydynt yn gludydd gwastraff cofrestredig ac edrychwch ar ein cofrestr gyhoeddus.
"Rhowch wybod am unrhyw weithgarwch amheus neu anghyfreithlon i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000."
Mae'r Tîm Atal Tanau Bwriadol a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cynorthwyo CNC a Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o'r gwaith hwn.
Dywedodd Rhingyll y Tîm Atal Tanau Bwriadol, Marc Davies:
"Mae diogelu ein cymunedau yn flaenoriaeth allweddol gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae dympio a llosgi gwastraff yn anghyfreithlon yn achosi niwsans difrifol i'r gymuned gyfagos, a thra bod criwiau tân yn delio â'r digwyddiadau hyn, nid ydynt yn gallu ymateb i alwadau brys eraill.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r drosedd hon ac yn eu cefnogi yn eu gwaith o ymchwilio a gorfodi."
Ychwanegodd y Rhingyll Gemma Davies o Dîm Plismona Bro Llwynhendy:
"Rydym yn dibynnu ar ein cymuned i rannu gwybodaeth gyda ni er mwyn targedu a thaclo troseddau o'r math hwn.
"Drwy weithio gydag asiantaethau partner, gallwn ymdrin yn effeithiol â throseddau, cadw ein cymunedau'n ddiogel rhag niwed gan droseddau o'r fath a lleihau'r galw a roddir ar blismona rheng flaen."
Gall y cyhoedd ffonio 101 i roi gwybodaeth neu adrodd am droseddau neu gallant ei wneud yn ddienw drwy Crimestoppers.
I wirio cofrestr gyhoeddus CNC ewch i <https://naturalresourceswales.gov.uk/permits-and-permissions/check-for-a-permit-licence-or-exemption/?lang=cy>