Caniatáu trwydded wastraff Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi caniatáu trwydded amgylcheddol i ganiatáu i Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau weithredu gorsaf storio a throsglwyddo gwastraff yn Noc Penfro.
Mae'r penderfyniad yn dilyn asesiad trwyadl o gynlluniau'r cwmni, sydd wedi cynnwys ymgynghoriadau gyda phobl leol, busnesau a chyrff proffesiynol megis Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r cwmni wedi dangos y gall fodloni holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol ac iechyd cyfraith y DU, Cymru ac Ewrop i dderbyn trwydded a rhedeg y safle gwastraff.
Mae copi o ddogfen penderfyniad CNC a thrwydded y cwmni ar gael i'w gweld ar-lein ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae'r drwydded yn cynnwys amodau llym ar gyfer pethau fel faint o wastraff y gellir ei storio ar y safle, pa fathau o wastraff, a ble y gellir ei storio. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddilyn dull cam wrth gam o weithredu.
Dywedodd Gavin Bown, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym wedi craffu'n fanwl ar gynlluniau Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau ac wedi ystyried yr holl wybodaeth berthnasol a roddwyd i ni drwy ein hymgynghoriadau. Mae'r cwmni wedi dangos bod ganddynt y cynlluniau a'r gweithdrefnau cywir ar waith i redeg y safle hwn yn ddiogel.
"Rydyn ni am dawelu meddyliau pobl gan fod yr amodau rydym ni wedi'u gosod yn y drwydded yno i ddiogelu pobl a'r amgylchedd.
"Cyn y gallan nhw ddechrau derbyn gwastraff bydd angen iddyn nhw gael caniatâd cynllunio, a sawl caniatâd arall gan sefydliadau fel Dŵr Cymru Welsh Water. Unwaith iddynt ddechrau rhedeg y safle, bydd angen iddynt gadw at amodau ein trwydded i redeg eu safle'n gyfreithlon. Bydd y safle hefyd yn cael ei reoleiddio'n llym gan ein swyddogion er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn amodau’r drwydded amgylcheddol."
Yn ystod yr ymgynghoriadau, codwyd pryderon fel addasrwydd y lleoliad, mwy o dagfeydd traffig a sŵn gan y gymuned hefyd. Mae'r materion hyn y tu allan i gwmpas trwydded yr Amgylchedd, ond gellir eu hystyried fel rhan o gais cynllunio.
Mae Awdurdod y Porthladd yn bwriadu storio bwndeli gwastraff nad ydynt yn beryglus a gwastraff coed rhydd ar ei iard cyn iddynt gael eu cludo oddi ar y safle. Mae'n wastraff y bwriedir ei ddefnyddio fel tanwydd mewn ynni o gyfleusterau gwastraff oddi ar y safle.
Lleolir safle gwastraff arall ar yr un iard ddociau, a gaiff ei redeg gan Gyngor Sir Penfro. Gwnaeth gais yn ddiweddar i newid ei drwydded amgylcheddol i ehangu'r ardal o dir y mae'n storio gwastraff arni, ac i gynyddu'r mathau o wastraff y mae'n eu derbyn yn unol â'i drefn ailgylchu newydd. Mae asesiad CNC o hyn yn parhau a bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi maes o law.