Dyn o Drefynwy yn cyfaddef i dair trosedd gwastraff anghyfreithlon
Mae dyn o Drefynwy wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £13,542 mewn dirwyon, costau a gordal dioddefwyr, ar ôl cyfaddef i dri chyhuddiad yn ymwneud â gwastraff yn Llys Ynadon Casnewydd.
Plediodd Mr Johns yn euog i waredu gwastraff a reolir ar fferm Glannau Farm, Sir Fynwy, mewn modd a oedd yn debygol o achosi llygredd i’r amgylchedd neu niweidio iechyd dynol; methu â chydymffurfio gyda hysbysiad stop a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a chyflwyno gwastraff a reolir neu achosi neu ganiatáu i wastraff a reolir gael ei gyflwyno i weithrediad a restrir yn fwriadol ar y Fferm heb drwydded amgylcheddol.
Bu swyddogion CNC yn ymweld â’r fferm ym mis Mai 2020 ar ôl derbyn adroddiadau ynglŷn â gweithgarwch gwastraff.
Canfu’r swyddogion nifer o achosion o waredu gwastraff, gan gynnwys gwastraff adeiladwaith a gwaith dymchwel, gwastraff domestig, coed, plastigau, metelau a phridd, ynghyd â thystiolaeth o losgi gwastraff, gan achosi risg i’r amgylchedd ac iechyd dynol.
Yn ystod ymweliadau dilynol, arsylwodd swyddogion CNC droseddu pellach o’r un natur a chyflwynwyd hysbysiadau i Mr Johns i geisio atal y gweithgarwch anghyfreithlon.
Yn ystod y gwrandawiad ar 23 Tachwedd 2021, cafodd Mr Johns orchymyn i dalu cyfanswm o £13,542 mewn dirwyon a chostau gan Farnwr Rhanbarth.
£2,160.00 am bob un o’r troseddau ynghyd â gordal dioddefwyr o £190.00 a chyfraniad o £6,872.00 tuag at gostau.
Dywedodd John Jowett, Swyddog Gorfodi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae troseddau gwastraff yn effeithio ar iechyd pobl, eu cymuned a’r amgylchedd ehangach, yn ogystal â thanseilio busnesau sy’n gweithredu’n gyfreithlon o fewn y diwydiant gwastraff.
Rwy’n gobeithio bod y canlyniad hwn yn anfon neges i bawb sy’n ymwneud â storio a gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon ein bod ni’n cymryd y math hwn o weithgaredd o ddifrif, ac y byddwn yn cymryd camau priodol bob amser er mwyn gwarchod ein hadnoddau naturiol a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Dylai unrhyw un sy’n amau bod gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn digwydd yn eu hardal roi gwybod i CNC trwy ffonio’r llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000.