Rhagor o waith ar forgloddiau Fairbourne
Mae mwy o waith yn dechrau wythnos nesaf (13 Gorffennaf) i helpu i ddiogelu morgloddiau pentref ar arfordir Gogledd Cymru.
Bydd contractwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn symud 20,000 tunnell o raean bras ar draeth Fairbourne i lenwi ardal sydd wedi'i herydu o flaen y pentref.
Y traeth graeanog neu’r marian hwn yw'r morglawdd cyntaf rhag y llanw ac mae'n diogelu’r wal goncrit, sy’n amddiffyn Fairbourne rhag y môr.
Bydd y gwaith, a fydd yn cymryd chwech wythnos i’w gwblau, os ceir tywydd ffafriol, yn cael ei wneud gan McCarthy's Contractors Ltd a byddant yn dilyn canllawiau Covid 19 cyfredol y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.
Bydd peiriant cloddio a thryc dympio yn casglu ac yn cludo’r graean un cilomedr i lawr y traeth, o fannau lle ceir crynodiadau uchel ohono i ardaloedd lle mae ei angen.
Bydd y gwaith yn effeithio gyn lleied â phosibl ar nodweddion naturiol a rhyngwladol bwysig Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau.
Gan ddilyn cyngor CADW, bydd gofal yn cael ei gymryd i beidio ag effeithio ar y trapiau tanciau ar y traeth sy’n dyddio o’r Ail Ryfel Byd.
Meddai Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau CNC y Gogledd Orllewin: "Mae amddiffyn Fairbourne yn her - rydym yn gweithio yn erbyn natur i geisio lleihau'r risgiau ar adeg pan fo'r hinsawdd yn newid a lefelau'r môr yn codi.
"Rydym wedi ymrwymo i gynnal a monitro'r amddiffynfa lifogydd yn y tymor byr a’r tymor canolig er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i drigolion Fairbourne.
"Mae ailgyflenwi'r marian ar ôl stormydd y gaeaf yn rhan o'r ymrwymiad parhaus hwn.
"Byddwn yn dal i fonitro perfformiad y morglawdd fel rhan o'n rhaglen gynnal a chadw barhaus.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r gymuned leol am ei chefnogaeth a'i chydweithrediad."
Gall unrhyw un sy'n pryderu am lifogydd ganfod beth yw ei risg llifogydd a chofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu drwy fynd i www.naturalresources.wales/flooding.
Mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a'r gymuned drwy Fwrdd Prosiect Fairbourne : Symud Ymlaen