Cyfoeth Naturiol Cymru yn Wythnos Hinsawdd Cymru
O reoli perygl llifogydd yn y dyfodol i fanteisio ar fuddion atebion ar sail natur, mae cydweithwyr o bob rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn barod i gymryd rhan mewn sgwrs â Chymru gyfan ar fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru (22-26 Tachwedd).
Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau rhithiol dros bum diwrnod – gyda phob diwrnod yn canolbwyntio ar thema wahanol – yn archwilio cyfraniad Cymru at yr her fyd-eang o daclo newid yn yr hinsawdd a chyflawni nodau sero net.
Bydd Prif Weithredwr CNC, Clare Pillman, a chydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad yn chwarae rhan weithredol wrth gynnal sesiynau a fydd yn ysgogi’r meddwl drwy gydol yr wythnos, gyda phob un yn canolbwyntio ar annog trafodaethau pwysig ynghylch sut y mae’n rhaid i bobl Cymru i gyd weithio gyda’i gilydd i lunio dyfodol sy’n hinsawdd bositif a natur bositif.
Gyda COP26 yn Glasgow yn fyw yn ei chof, bydd Clare yn ymuno â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yr Arglwydd Deben, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn sesiwn agoriadol yr wythnos.
Bydd CNC hefyd yn arwain neu’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau dros y pum diwrnod. Bydd y rhain yn cynnwys trafodaethau ar yr heriau cynyddol sy’n gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd mewn hinsawdd sy’n newid yn gyflym, a sut y gall atebion ar sail natur chwarae rôl flaenllaw o ran gwireddu dyfodol sero net.
Wrth ddisgwyl Wythnos Hinsawdd Cymru, meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i fynychu cynhadledd COP26 yn Glasgow ac i ddangos sut y gall Cymru chwarae rhan sylweddol mewn cyd-destun byd-eang wrth ddwysáu ein hymateb i argyfwng yr hinsawdd.
Ac eto, er i COP26 esgor ar gamau gweithredu cadarnhaol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ar lefel fyd-eang, mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud o hyd o fewn ein ffiniau ni i helpu i wireddu ein hamcanion ein hunain o ran yr hinsawdd a dyfodol sero net.
Allwn ni ddim cyflawni’r rhain dros nos. Er bod camau gweithredu ar y cyd eisoes yn digwydd yma yng Nghymru, gall y trafodaethau pwysig y byddwn ni’n eu cael yn Wythnos Hinsawdd Cymru fod yn ysgogiad i yrru camau mwy byth. Rydw i a’m cydweithwyr yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth hollbwysig hon, wedi’n cymell gan yr angen i ddiogelu ein hadnoddau naturiol er lles cenedlaethau heddiw ac yfory.
Chwaraeodd Cyfoeth Naturiol Cymru ran weithredol yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, gan arddangos yr amrywiaeth eang o gamau sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru a’r DU i daclo argyfyngau’r hinsawdd a byd natur.
Yn ôl yng Nghymru, arweiniodd CNC sesiynau yn Sioeau Teithiol Rhanbarthol COP 26 hefyd, fel rhan o COP Cymru. Roedd y rhain yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion gorau o bob cwr o Gymru ac yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio wrth helpu i wireddu uchelgeisiau’r wlad o ran yr hinsawdd a’i hamcanion sero net.
Dyma rhaglen CNC yn Wythnos Hinsawdd Cymru:
Diwrnod 1 – Cymru a’r Byd
09:00 – 10:00 – Croeso: Wythnos Hinsawdd Cymru 2021
A hithau newydd ddychwelyd o’i hymweliad â COP26, bydd Clare Pillman yn ymuno â Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yr Arglwydd Deben, Cadeirydd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn sesiwn agoriadol Wythnos Hinsawdd Cymru.
Yn ystod y sesiwn bydd Clare yn sôn am ei phrofiadau o COP26 ac yn cyflwyno’i barn ynglŷn â’r gwahanol lefelau o arweinyddiaeth y mae eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Diwrnod 3 – Sut y mae Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd
12:45 – 13:45
Bydd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau, yn cyflwyno sesiwn yn sôn am y camau y mae’n rhaid i Gymru eu cymryd er mwyn addasu i newid hinsawdd a lliniaru’r effeithiau pan ddaw hi’n fater o reoli perygl llifogydd.
Diwrnod 4 – Archwilio rôl natur o ran gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
09:00 – 10:00 – Moroedd cydnerth – cynghreiriad hollbwysig o ran newid hinsawdd
Bydd Karen Robinson, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Gynefinoedd Morol yn CNC, yn ymuno â’r panel ar gyfer y sesiwn hon i drafod effeithiau newid hinsawdd ar y môr a’i ecosystemau. Trafodir sut y gallwn liniaru effeithiau newid hinsawdd trwy gyfrwng cynefinoedd carbon glas a dulliau cynaliadwy o ddefnyddio moroedd, yn ogystal â’r hyn y gall pob un ohonom ei wneud i geisio diogelu’r adnodd naturiol hwn.
10:30 – 11:30 - Pŵer atebion sy’n seiliedig ar natur – elfen gadarnhaol i bobl, hinsawdd a bywyd gwyllt Cymru
Bydd Clive Walmsley a Peter Jones yn arwain y sesiwn hon ochr yn ochr ag Alison Smith o’r Sefydliad Newid Amgylcheddol. Nod y sesiwn fydd nodi manylion Rhaglen Weithredu Genedlaethol gyntaf Cymru ar Fawndiroedd a chynnig cipolwg ar brosiectau eraill a gynhelir yng Nghymru sy’n ymhél ag atebion seiliedig ar natur.
Chwaraeodd Cyfoeth Naturiol Cymru ran weithredol yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, gan arddangos yr amrywiaeth eang o gamau sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru a’r DU i daclo argyfyngau’r hinsawdd a byd natur.
Yn ôl yng Nghymru, arweiniodd CNC sesiynau yn Sioeau Teithiol Rhanbarthol COP 26 hefyd, fel rhan o COP Cymru. Roedd y rhain yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion gorau o bob cwr o Gymru ac yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio wrth helpu i wireddu uchelgeisiau’r wlad o ran yr hinsawdd a’i hamcanion sero net.
Bydd digwyddiadau Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael eu darlledu’n fyw ar blatfform digwyddiadau COP Cymru trwy gyfrwng tudalen Cynnwys Byw, a bydd recordiad ar gael yn adran ‘ar gais’ y safle yn fuan ar ôl pob digwyddiad.
I weld y rhaglen, cliciwch yma COP CYMRU 2021 | Rhaglen (eventscase.com)
Er mwyn cofrestru i fynychu’r sesiynau, cliciwch yma COP CYMRU 2021 | Wythnos Hinsawdd Cymru (eventscase.com)