Atgyfnerthu tîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru
Heddiw (11 Mai 2020), mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi pedwar penodiad allweddol i'w dîm arwain.
Mae Sarah Jennings yn ymuno â CNC fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach - swydd sydd newydd gael ei chreu.
Bydd ei blaenoriaethau yn canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau ac adeiladu naratif grymus o amgylch ein cenhadaeth i fynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a’r amgylchedd. Bydd hi hefyd yn rhoi arweiniad strategol ar gyfer cyfeiriad ein perthynas yn y dyfodol â rhanddeiliaid newydd a phresennol ac yn arwain y swyddogaethau cynhyrchu incwm masnachol a chaffael yn CNC.
Bydd Rachael Cunningham yn olynu Kevin Ingram fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Bydd Rachael yn llywio'r gwaith o weddnewid y timau cyllid a TGCh ac yn rheoli'r timau ystadau, rheoli cyfleusterau ac archwilio mewnol.
Wrth groesawu'r penodiadau, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol CNC, Clare Pillman:
"Rwy'n falch iawn o groesawu Sarah a Rachael i CNC lle byddant yn ymuno â thîm brwdfrydig, sy’n ymroddedig i fynd i'r afael â rhai o heriau amgylcheddol mwyaf ein hoes.
"Er bod pob un yn cynnig ystod eang o brofiad ac arbenigedd, maent hefyd wedi dangos eu brwdfrydedd dros amddiffyn amgylchedd naturiol Cymru a’u hawydd i greu CNC sy’n gryf a llwyddiannus.
"Rwy'n gwybod y bydd y ddwy yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lywio'r sefydliad tuag at y weledigaeth hon, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw pan fyddant yn ymuno â'r tîm yn yr hydref."
Mae Sarah Jennings yn ymuno â CNC o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda lle mae hi'n Gyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol.
Wrth amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ei swydd newydd, dywedodd Sarah:
"Dwi wrth fy modd o fod yn ymuno â CNC ar adeg pan na fu erioed mor bwysig creu cynghreiriau â'n partneriaid, ein cwsmeriaid a'r cyhoedd er mwyn gweithio gyda'n gilydd ar atebion ar gyfer argyfyngau’r hinsawdd a'r amgylchedd sy’n ein hwynebu. Bydd yn fraint bod yn rhan o'r tîm a chael cyfle i fod yn rhan o adeiladu mudiad a fydd yn cael effaith barhaol."
Mae Rachael Cunningham yn dod â chyfoeth o brofiad o'r sector preifat a chyhoeddus gyda hi. Mae hi’n ymuno â CNC yn dilyn gyrfa 17 mlynedd gyda’r DVLA lle cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr Cyllid yr asiantaeth yn 2013.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Rachael:
"Dwi’n falch dros ben o fod yn ymuno â CNC. Mae'r cyfle i chwarae rôl wrth helpu'r sefydliad i wireddu ei botensial ac i gyflawni ei weledigaeth hirdymor yn un sy’n rhy dda i'w golli. Dwi’n awyddus iawn i adael yr etifeddiaeth orau bosibl i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a dwi’n ysu am gael dechrau arni."
Mae CNC hefyd wedi cyhoeddi penodiad Peter Freer-Smith fel Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth a Naomi Lawrence fel Pennaeth Profiad Cwsmeriaid.
Bydd yr Athro Peter Freer-Smith yn dod â degawdau o brofiad gydag ef pan fydd yn dechrau ar ei swydd fel y Pennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth.
Mae Peter wedi dal swydd y Prif Wyddonydd yn y Comisiwn Coedwigaeth a Forest Research ac mae'n gweithio ar hyn o bryd yn yr Adran Gwyddor yr Amgylchedd a Pholisi ym Mhrifysgol California.
Mae Naomi yn ymuno â CNC o'r Swyddfa Dywydd lle mae hi wedi treulio'r 16 mlynedd diwethaf yn arwain amrywiaeth o brosiectau trawsnewid mewn nifer o rolau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Wrth nodi’r penodiadau, dywedodd Cadeirydd CNC, Syr David Henshaw:
"Mae gan CNC ran allweddol i'w chwarae yn uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran diogelu amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r penodiadau hyn yn allweddol i'n helpu i gyflawni'r amcanion hyn, ac maent yn tanlinellu ymhellach ein gwaith parhaus i ddatblygu a chryfhau ein galluoedd ar draws y sefydliad. Rwy'n eu llongyfarch i gyd ar eu penodiadau ac yn edrych ymlaen at eu croesawu i CNC."