Partneriaeth Network Rail a Cyfoeth Naturiol Cymru ‘ar y trywydd iawn’ i sicrhau dyfodol gwyrddach, gan frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gwella cysylltiadau rheilffordd i deithwyr
Mae’r ddau sefydliad wedi cadarnhau eu hymrwymiad i weithio’n agosach gyda’i gilydd yn dilyn adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Mae’r cytundeb, sy’n cael ei adnewyddu bob pum mlynedd fel arfer, yn atgyfnerthu partneriaeth gyffrous sy’n gweithio tuag at nod cyffredin: ysgogi cynaliadwyedd amgylcheddol er budd cymunedau, creu rheilffordd fwy gwydn trwy fod yn fwy parod i frwydro yn erbyn argyfyngau natur a’r hinsawdd, a hyrwyddo arferion cyfrifol ar draws seilwaith rheilffyrdd y llwybr.
Mae’r ddau sefydliad eisoes wedi helpu ei gilydd ar nifer o gynlluniau arfordirol ac afonydd i leihau perygl llifogydd, diogelu cynefinoedd, rheoli tir, a chynllunio prosiectau’n well.
Un enghraifft lle mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn hynod effeithiol, ac yn hollbwysig wedi arbed amser, oedd y gwaith adfer helaeth ar ôl i drên cludo nwyddau fynd oddi ar y cledrau yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, ym mis Awst 2020.
Cloddiwyd dros 30,000 tunnell o bridd wedi’i socian â thanwydd o dan 150 metr o drac rheilffordd - gan atal effaith amgylcheddol barhaol a diogelu’r dirwedd leol.
Roedd y ffordd gydweithredol o weithio, ar ddigwyddiad ag effaith mor fawr, yn amhrisiadwy ac yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
Mae rhai cynlluniau arwyddocaol eraill yn cynnwys y canlynol:
- Adnewyddu Traphont Abermaw (cyfredol) – mae Network Rail yn gwneud gwaith sylweddol i adnewyddu’r strwythur rhestredig dros aber Afon Mawddach. Mae’r ddau sefydliad wedi cydweithio i sicrhau bod y gwaith angenrheidiol i’r draphont yn cael ei gwblhau heb effeithio’n andwyol ar ecoleg fregus SoDdGA Aber Mawddach.
- Adnewyddu strwythurau Cyffordd Dyfi (cyfredol) – Mae Network Rail yn adnewyddu pont sy’n ymestyn dros aber Afon Dyfi a, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi ein galluogi i ddod o hyd i fethodoleg foddhaol i leihau’r effaith ar yr hyn sy’n ardal ecolegol sensitif.
- Stryd Stephenson (cyfredol) – yng Nghasnewydd lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith ar bedwar cwlfert o dan y rheilffordd - gan glymu ei fwnd amddiffyn rhag llifogydd i arglawdd y rheilffordd.
- Cynllun lliniaru llifogydd Rhydaman (cyfredol) – lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn clymu ei fwnd amddiffyn rhag llifogydd gyda strwythur Network Rail.
- Cynllun gwytnwch dyffryn Conwy (2019) – bu Network Rail yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd yn gallu cynorthwyo gyda’r gwaith trwyddedu a cheisiadau i ailadeiladu’r rheilffordd mewn modd mwy gwydn i atal golchiadau tebyg mewn tywydd garw.
- Cynllun codi trac y bont ddu (2018) – cododd Network Rail y strwythur yn uwch ar y gorlifdir sydd bellach yn golygu nad oes rhaid i reilffordd y Cambrian gau mor aml gan ganiatáu i deithwyr gwblhau eu teithiau ar adegau o law trwm.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn falch iawn o adeiladu ar y bartneriaeth gydweithredol sydd eisoes yn bodoli gyda Network Rail drwy lofnodi’r memorandwm hwn.
“Pan fydd sefydliadau’n cydweithio, gallwn ni wneud mwy. Felly mae’r cytundeb hwn yn golygu bod yr amgylchedd a defnyddwyr y rheilffyrdd i gyd yn elwa.
“Pwysleisiodd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 fod angen i wahanol sefydliadau gydweithio i wella gwytnwch ein hamgylchedd, yn enwedig wrth i ni ail-ddychmygu’r system drafnidiaeth, ac mae’r bartneriaeth hon yn rhoi’r egwyddor hon ar waith.”
Dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a’r Gororau yn Network Rail:
“Drwy gyfuno arbenigedd, gwybodaeth ac adnoddau ein dau sefydliad yn y modd hwn, gallwn weithio mewn ffordd fwy effeithlon o ran amser a mwy cost-effeithiol, diogel a chynaliadwy - gan greu effaith gadarnhaol a pharhaol ar yr amgylchedd, wrth wella cysylltiadau rheilffordd i deithwyr.
“Mae pwysigrwydd y cydweithio hwn wedi’i ddangos dro ar ôl tro dros y blynyddoedd, ac rydym yn falch iawn o fod yn adnewyddu ein hymrwymiad ar y cyd i sicrhau agwedd fwy cynaliadwy ac ecolegol gyfrifol at y ffordd yr ydym yn gweithio.”
Cefnogir dyheadau’r memorandwm gan gynllun bwriadau blynyddol i ysgogi’r cydweithio.