Lansio llwybrau antur newydd yng Nghoed y Brenin

Mae chwe llwybr newydd sbon ar gyfer beicwyr o bob gallu yn cael eu lansio mewn lleoliad beicio poblogaidd. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ariannu a chreu rhwydwaith o lwybrau newydd gydag arwyddion yng Nghoed y Brenin, a leolir ym Mharc Cenedlaethol Eryri ger Dolgellau, sy'n parhau i fod yn un o brif gyrchfannau beicio’r DU ers iddo agor ym 1996.

Bydd y chwe llwybr antur newydd, sydd wedi cael eu henwi’n seiliedig ar chwedlau o Gymru, yn agor ar 25 Mai ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd, o feicwyr dibrofiad a theuluoedd i feicwyr profiadol, gyda llwybrau o 9km hyd at 55km - sy’n bosibl drwy gyfuno dau o’r llwybrau hiraf.

Bydd y llwybrau graean di-draffig yn bennaf yn cynnig cyfle i feicwyr o bob gallu brofi rhai o’r ardaloedd mwy gwyllt ar y safle.

Dywedodd Andy Braund, Ceidwad Hamdden CNC ar gyfer Beicio a Beicio Mynydd yng Ngogledd-orllewin Cymru:

“Rydym yn gyffrous i gynnig chwe llwybr beicio newydd i'n hymwelwyr. Drwy roi arwyddion ar ein rhwydwaith bresennol o ffyrdd coedwig, llwybrau ceffylau a ffyrdd caniatâd i greu llwybrau hawdd i’w dilyn, rydym wedi creu arlwy i ystod eang o ymwelwyr a thrigolion lleol allu ei fwynhau.

“Mae’r llwybrau newydd hyn yn addas ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno cael picnic ger yr afon, beicwyr hamdden,  yn ogystal â beicwyr graean mwy anturus.

“Bydd yn eu galluogi i archwilio un o'r coedwigoedd harddaf ym Mharc Cenedlaethol Eryri gyda golygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd cyfagos, ac mae’n llawn gweithfeydd mwyngloddio hanesyddol a hen ffermydd.”

Mae Tîm Hamdden CNC wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r llwybrau hyn dros y flwyddyn ddiwethaf a bydd y prosiect hwn yn cynyddu hygyrchedd y safle yn sylweddol ar gyfer ystod eang o bobl, a hynny heb fod angen adeiladu llwybrau newydd costus.

Bydd hefyd yn rhoi cyflwyniad i feicio antur i feicwyr nad ydynt yn gyfarwydd â beicio oddi ar y ffordd, a gallai hynny eu hannog i roi cynnig ar lwybr beicio newydd Traws Eryri a lansiwyd gan CNC a Cycling UK y llynedd.

Dywedodd John Taylor, Arweinydd Tîm Hamdden CNC, Gogledd Orllewin Cymru:

“Mae hyn yn cyfrannu at ein gwaith ehangach i alluogi pobl i gysylltu â byd natur a darparu atyniad trwy gydol y flwyddyn sy’n cefnogi busnesau lleol.”

Mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Beics Brenin, sy'n  llogi ac yn atgyweirio beiciau, cwmni digwyddiadau a hyfforddi Pedal MTB a chlwb MTB Dreigiau Coed Y Brenin i annog pobl i ddechrau beicio ar y safle.

Bydd y llwybrau'n cael eu lansio ddydd Sadwrn, Mai 25 a bydd canllawiau manwl ar gael yng Nghoed y Brenin.