Lansio ymdrech newydd i amddiffyn afon yn Sir Ddinbych rhag llygredd diwydiannol
Mae busnesau ar ystad ddiwydiannol yng Nghorwen wedi derbyn canllawiau pwysig fel rhan o ymgyrch sy’n bwriadu diogelu'r cyrsiau dŵr cyfagos rhag llygredd.
Ar ddydd Mercher, 14 Awst, aeth swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) draw i unedau amrywiol ar Ystad Ddiwydiannol Ty'n y Llidiart. Dyma'r ymweliad diweddaraf ag ystad ddiwydiannol ledled Gogledd Ddwyrain Cymru a gynlluniwyd i helpu busnesau i nodi unrhyw risgiau o lygredd sy'n gysylltiedig â'u gweithrediadau.
Yn ystod yr ymweliadau, trafododd swyddogion fesurau posibl i atal llygredd a rhoi cyngor ar unrhyw ganiatadau a gofynion trwyddedu amgylcheddol oedd eu hangen. Dosbarthwyd llythyrau hefyd mewn ardal breswyl gerllaw er mwyn codi ymwybyddiaeth o gamgysylltiadau posibl â'r llinell dŵr wyneb.
Mae'r dyfrffyrdd cyfagos, fel Nant Fawr, wedi wynebu sawl digwyddiad llygredd dros y blynyddoedd. Yn aml, achosir y digwyddiadau hyn drwy ryddhau sylweddau niweidiol yn ddamweiniol o safleoedd diwydiannol cyfagos neu gysylltiadau anghywir â'r system draenio dŵr wyneb.
Mae'n hollbwysig bod risgiau llygredd i'r nentydd cyfagos yn cael eu lleihau gymaint ag sydd bosibl o ystyried eu cysylltiadau ag Afon Dyfrdwy. Mae’r cwrs dŵr hanfodol hwn yn cael ei gydnabod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei fywyd gwyllt amrywiol, gan gynnwys rhywogaethau fel y llysywen bendoll, eogiaid a’r llysywen Ewropeaidd.
Mae Afon Dyfrdwy hefyd yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed. Fe'i dynodwyd yn Barth Diogelu Dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr, 1991, sy'n golygu bod angen caniatâd pan fo sylweddau penodol yn cael eu defnyddio neu eu storio mewn safleoedd penodol yn unrhyw le yn yr ardal ddynodedig, sy'n cynnwys Ystad Ddiwydiannol Ty’n y Llidiart.
Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Ddinbych:
“Gall digwyddiadau llygredd ddigwydd yn aml oherwydd gollyngiadau, damweiniau neu hyd yn oed fandaliaeth. Mae'r digwyddiadau hyn nid yn unig yn peryglu iechyd pobl ond hefyd maen nhw’n cael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt lleol ac ansawdd dŵr.
“Drwy fynd ati i ymgysylltu â busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Ty'n y Llidiart, ein nod yw sicrhau bod ganddynt y mesurau angenrheidiol ar waith i atal llygredd o'r fath. Bydd y fenter hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau o lygredd o ystadau diwydiannol a diogelu Afon Dyfrdwy a'i chynefinoedd cyfagos.”