Is-ddeddfau pysgota newydd yn dod i rym ar Afon Hafren yng Nghymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno cyfyngiadau ar bysgota eog yn Afon Hafren yng Nghymru, mewn ymateb i’r gostyngiad yn stociau eogiaid ymfudol.
Mae'r niferoedd ar hyn o bryd ymhlith yr isaf a gofnodwyd erioed ac yn is na lefelau cynaliadwy.
Cafodd is-ddeddfau newydd eu cadarnhau gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, yn dilyn cyfnod o ymgynghori.
Mae’r is-ddeddfau’n rhan o ymrwymiadau CNC i adfer stociau eogiaid a brithyllod môr Cymru, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Eogiaid a Brithyllod y Môr.
Mae’r Is-ddeddfau hyn yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd eisoes gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn sicrhau bod eogiaid a brithyllod y môr (sewin) ar Afon Hafren yn derbyn yr un lefel gwarchodaeth yng Nghymru ag y maent yn Lloegr. Mae dull dalgylch integredig yn hanfodol er mwyn rheoli stociau pysgod ymfudol.
Daw'r is-ddeddfau newydd i rym ar 1 Mawrth 2022 a byddant yn eu lle am y 10 mlynedd nesaf. Bydd yr is-ddeddfau’n gwella’r siawns y bydd eogiaid a sewin yn goroesi ac yn cyrraedd eu ffrydiau silio, gan helpu i adfer y rhywogaethau eiconig hyn a’u cynaliadwyedd hirdymor.
Mae is-ddeddfau newydd Afon Hafren yn gofyn am y canlynol:
- Rhyddhau gorfodol pob eog a sewin sy'n cael ei ddal â gwialen a lein,
- Cyfyngiadau ar ddulliau pysgota genweirio er mwyn gwella'r modd y caiff eogiaid a ryddhawyd eu trin ynghyd â'u goroesiad, gan gynnwys:
- Gwahardd unrhyw bysgota abwyd mewn perthynas ag eogiaid a sewin
- Defnydd gorfodol o fachau heb adfach
- Cyfyngiadau ar y math o fachyn, y maint, a'u rhif
Dywedodd Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein stociau eog gwerthfawr er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Dyna pam mae ein ‘Cynllun Gweithredu’ yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd ystod eang o gamau er mwyn cyfyngu ar y pwysau niferus sy’n effeithio ar ein stociau eog a sewin. Dim ond un o’r camau hynny yw is-ddeddfau i wella goroesiad pysgod.
“Mae gennym bryderon parhaus ynghylch nifer yr eogiaid a’r sewin sy’n dychwelyd i’n hafonydd. Yn syml, nid oes digon o bysgod llawndwf yn silio er mwyn cynnal stociau ar eu lefelau presennol neu i atal dirywiad pellach.
“Yn union fel y mae Afon Hafren yn afon eiconig, mae eogiaid a sewin yn bysgod eiconig a chredwn yn gryf fod yr is-ddeddfau newydd, ynghyd ag ystod o fesurau eraill megis mynd i’r afael â llygredd amaethyddol, gwella ansawdd dŵr a gwella cynefinoedd, yn hanfodol i ddyfodol eogiaid a sewin.
“Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn darparu dull integredig dalgylch cyfan ar gyfer ein hafonydd ffiniol, ac rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau ein bod yn gyson yn ein dull o reoli ein stociau pysgod.
“Rydym yn parhau i weithio gyda’r cymunedau pysgota, a phawb sydd â rhan yn ein hamgylcheddau afon er mwyn diogelu ein pysgod a’n pysgodfeydd fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Bydd yr is-ddeddfau yn gam cadarnhaol i helpu cyflawni hyn.”
Yn ogystal ag is-ddeddfau Afon Hafren, mae CNC yn cyflwyno is-ddeddfau newydd i warchod eogiaid a sewin yn Afon Wysg ac Afon Gwy yng Nghymru.
Mae is-ddeddfau Afonydd Gwy ac Wysg yn gofyn am y canlynol:
Afon Gwy
- Dal a rhyddhau gorfodol pob eog a sewin
- Dyddiad diweddu diwygiedig ar gyfer tymor yr eog fel ei fod yn rhedeg o 3 Mawrth i 17 Hydref yn achos yr afon gyfan a'r llednentydd
Afon Wysg
- Pysgota ‘dal a rhyddhau’ pob eog yn orfodol
- Dal a rhyddhau pob sewin a ddaliwyd cyn 1 Mai yn orfodol
Bydd yr is-ddeddfau yn eu lle tan 2029, i gyd-fynd â diwedd is-ddeddfau ‘Cymru Gyfan’ ac ‘Afonydd Trawsffiniol’.