CNC a Ford yn gyrru ymlaen
Bwriad partneriaeth newydd rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat yw gyrru cynlluniau newydd yn eu blaen i droi cyn-lofa yn Ne Cymru yn goedwig gymunedol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi uno gyda chwmni Moduron Ford i greu’r goedwig newydd ar hen safleoedd Glofa Coegnant a Golchfa Maesteg yng Nghwm Llynfi Uchaf, prosiect a gyllidir gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru.
Bydd y bartneriaeth yn gweld y ddau sefydliad yn cydweithio gyda phobl leol dros y ddegawd nesaf i ddatblygu’r goedwig ac i’w chynnal a’i chadw.
Dechreuodd gwaith ar newid y safle 30 hectar yn gynharach yn ystod y mis, pan ddaeth sawl jac codi baw yno i baratoi’r tir yn barod ar gyfer plannu 60,000 o goed dros y gaeaf.
Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae prosiect Llynfi’n rhoi cyfle i ni ddangos sut y gallwn symud ymlaen ym maes rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy a darparu buddion ar gyfer cymunedau lleol.
“Mae cael tir glas ar garreg ein drws yn llesol i fyd natur, wrth gwrs, ond yn fwy na hynny, mae’n helpu pobl i deimlo’n well am eu cymuned ac yn darparu lle y gall pobl ymlacio a gwneud ymarfer corff.
“Pwrpas CNC yw sicrhau fod ein hamgylchedd a’n cyfoeth naturiol yn cael ei gynnal, ei wella a’i ddefnyddio. Ond allwn ni ddim â gwneud hyn ar ein pennau ein hunain, a cheir gwerth enfawr o ddatblygu partneriaethau ar y cyd â chymunedau a’r sector breifat.
“Bydd ein partneriaeth gyda Moduron Ford ar y rhaglen ddeng mlynedd hon yn sicrhau y bydd buddiannau pellgyrhaeddol ar gyfer yr amgylchedd, yr economi, a’r holl bobl a fydd yn ei ddefnyddio ar gyfer hamddena.”
Mae dros 300 o weithwyr Ford yn byw yng nghyffiniau Cwm Llynfi.
Meddai Mark Thomas, Rheolwr Cynaliadwyedd Ffatri Pen-y-bont ar Ogwr:
“Mae Ford wrth eu bodd i fod yn bartner i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer datblygu coedwig yng Nghwm Llynfi.
“Mae hyn yn crisialu ein strategaeth gynaliadwyedd i ryng-gysylltu ein cynnyrch, ein ffatrïoedd, ein pobl a’r cymunedau ble rydym yn gweithredu drwy ddarparu ardaloedd gwyrdd deniadol i’r gymuned sy’n gartref i gynifer o weithwyr Ford.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at weld llawer o oriau o amser gwirfoddoli’r staff yn cael ei dreulio yn y goedwig.”
Nid yn unig y bydd prosiect Llynfi’n gwella amgylchedd Cwm Llynfi drwy gynyddu bioamrywiaeth, lleihau faint o ddŵr sy’n llifo oddi ar y tir ac amsugno llygredd, ond bydd hefyd yn annog pobl i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a chynyddu’u lefelau ymarfer corff.
Bydd y bartneriaeth gyda Ford yn cefnogi plannu coed a datblygu cyfleusterau ymarfer corff gwyrdd, gan ddarparu gofod ar gyfer gweithgareddau iechyd a lles ar gyfer y gymuned.
Meddai Mari Sibley, Prif Syrfëwr ar gyfer CNC:
“Rydym wedi bod yn cydweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu cynlluniau i greu coedwig a fydd yn lle i bobl ymlacio, ymarfer a chymdeithasu mewn lleoliad dedwydd.
“A byddwn ni’n plannu dros 60,000 o goed ar draws y safle, a fydd yn cynnwys cymysgedd o goed llydanddail, coed ffrwythau, a choed addurniadol y bydd pobl o bob oed a gallu’n gallu’u mwynhau.”