CNC yn cynghori preswylwyr ar iechyd afonydd yn dilyn digwyddiad o lygredd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i breswylwyr helpu i gadw eu hafonydd lleol yn lân ac yn iach ar ôl i ddigwyddiad llygredd ladd tua 50 o bysgod ar Afon Plysgog yng Nghilgerran, un o isafonydd y Teifi.
Er nad oedd modd adnabod ffynhonnell y llygredd ar unwaith, gan iddo gael ei adrodd ddyddiau ar ôl y digwyddiad cychwynnol, credir mai'r achos oedd cemegau wedi'u gwaredu i lawr draen breswyl ar ôl i batio gael ei lanhau â sylweddau niweidiol i fywyd dyfrol.
Er bod canllawiau sy'n nodi sut i gael gwared ar gemegau penodol, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol ohonynt ac yn esgeuluso’r hyn sy'n cael ei roi i lawr eu draeniau dŵr glân.
Mae CNC yn galw ar y rhai sy'n byw ger neu ar hyd dyfrffyrdd i gofio pa hylifau y maent yn eu caniatáu i lawr eu draeniau gan y gallant ollwng i gyrsiau dŵr cyfagos ac effeithio ar y bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt.
Mae'r sefydliad yn annog pobl i wirio poteli a chynwysyddion unrhyw gemegau y maent yn eu defnyddio i sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut i gael gwared ohonynt yn ddiogel.
Mae dŵr golchi cemegol, sy'n cynnwys rhai cynhyrchion a ddefnyddir i lanhau dreifiau a cheir, yn un o'r sylweddau mwyaf cyffredin sy'n cyrraedd cyrsiau dŵr ar gam.
Dywedodd Simon Shorten, Swyddog yr Amgylchedd CNC:
“Mae diogelu afonydd Cymru a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw yn rhan fawr o’n gwaith ac mae rhan o hyn yn cynnwys addysgu a hysbysu’r cyhoedd am arferion gorau.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad y gellid fod wedi ei atal pe bai gan breswylwyr well syniad o sut i ddefnyddio a chael gwared ar gemegau yn gyfrifol.
“Rydyn ni eisiau gwella ymwybyddiaeth pobl o'r cysylltiad rhwng draenio a'u hafonydd lleol ac rydyn ni'n gobeithio y gall hyn helpu i ostwng cyfraddau digwyddiadau a gwella iechyd afonydd yn gyffredinol ledled y wlad.”