CNC yn gofyn am farn ar gynllun i reoli Coedwigoedd Mynydd Du a Llanthony am y 10 mlynedd nesaf
Mae cynllun deng mlynedd i reoli coedwigoedd Mynydd Du a Llanthony - ger Crughywel - wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae prif ardal Coedwig Mynydd Du yn llenwi dwy ochr dyffryn Grwyne Fawr, sy'n cynnwys coetir cysgodol ar hyd gwaelod y dyffryn a thir mynydd uchel dros 700 metr ar ei ochr orllewinol. Mae Coedwig Llanthony mewn cwm cyfagos i'r dwyrain ac mae ganddi gadwyn amrywiol o hen goetiroedd ystâd, sy'n rhedeg ar hyd llethrau gorllewinol Dyffryn Ewias.
Bwriad y cynllun yw cyflawni sawl amcan gan gynnwys adfer coetir hynafol yn y ddau floc coedwig ac i gwympo coed yn strategol er mwyn sefydlu coedwigoedd parhaol, amrywiol a gwydn.
Dywedodd Brian Hanwell, Uwch Reolwr Tir CNC:
“Mae'r cynllun adnoddau coedwig hwn yn ddiddorol gan ei fod yn cwmpasu dwy goedwig gyferbyniol - y ddau ohonynt yn llawn cymeriad.
“Rydym am sicrhau bod ein cynllun rheoli ar gyfer y coedwigoedd o fudd i'r amgylchedd a chynefinoedd lleol yn ogystal â chymunedau lleol. Er mwyn cyflawni hynny, mae'n hanfodol bod pobl leol yn cael dweud eu dweud ar y cynllun, ac yn rhoi sylwadau ar unrhyw ffordd y gellid ei wella."
Mae crynodeb o brif amcanion y goedwig a'r holl fapiau drafft ar gael i'w gweld ar wefan hwb ymgynghori CNC.
Gall preswylwyr chwilio am 'ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwigoedd Mynydd Du Cyfoeth Naturiol Cymru' ar unrhyw beiriant chwilio ar y rhyngrwyd a dilyn y dolenni i'r dudalen ymgynghori.
Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriadau. Byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.
Gall trigolion sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0AL.
Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 22 Mawrth 2021 fan bellaf.