CNC yn cwblhau arolwg cenedlaethol i reoli clefyd coed newydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau arolwg o goetiroedd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) mewn ymgais i gofnodi a rheoli lledaeniad clefyd coed newydd, Phytopthora pluvialis.
Mae'r clefyd yn bathogen ffwngaidd sy'n effeithio ar nifer o rywogaethau coed gan gynnwys hemlog y gorllewin, pinwydd a ffynidwydd Douglas a gall achosi nifer o symptomau fel colli nodwyddau, egin gwywedig, a briwiau ar y cyff, y canghennau a'r gwreiddiau.
Daethpwyd o hyd i’r clefyd yn Lloegr yn gyntaf, ac yn ddiweddarach fe’i gwelwyd mewn sawl safle ledled y DU, gan ysgogi asiantaethau amgylcheddol y DU i roi cynllun rheoli ar waith.
Cychwynnodd CNC a Llywodraeth Cymru arolwg o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i nodi ardaloedd heintiedig lle gellid cymryd camau i leihau'r risg y byddai’r clefyd yn lledaenu.
Sefydlwyd ardaloedd wedi'u darnodi (demarcated zones) mewn rhai safleoedd i sicrhau bioddiogelwch mewn ardaloedd heintiedig. Mae rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd hyn a'r gofynion o ran cael mynediad atynt ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae CNC a Llywodraeth Cymru bellach yn edrych ar y ffordd orau o weithio gyda thirfeddianwyr preifat i ganfod maint unrhyw glefyd ar draws yr holl goetir yng Nghymru.
Meddai Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir ar gyfer CNC:
"Coetiroedd Cymru yw un o'i hadnoddau mwyaf gwerthfawr yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Mae bygythiad newid yn yr hinsawdd a phlâu a chlefydau newydd yn golygu bod yn rhaid i bob un ohonom weithio'n galed i'w diogelu fel rhan o dîm cenedlaethol.
"Mae cwblhau'r arolwg o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gam cyntaf pwysig tuag at fynd i'r afael â'r clefyd newydd hwn ac mae'n rhoi dealltwriaeth glir i ni o ble mae'r pathogen hwn wedi effeithio ar goetiroedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus.
"Mae gennym flynyddoedd o brofiad yn delio â chlefydau coed fel hyn ac rydym yn ymdrin â'r mater gyda thechnegau sy'n arwain y diwydiant sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, gallwn fwrw ati yn awr i ystyried y ffordd orau o reoli pluvialis, gwneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gadw ein coedwigoedd yn iach, a deall y sefyllfa mewn coetiroedd preifat."
Mae canllaw cynhwysfawr ar y symptomau wedi’i baratoi i helpu i ganfod presenoldeb y clefyd, a gallwch ei weld yma.
Mae CNC yn gofyn i dirfeddianwyr a rheolwyr chwilio am symptomau a rhoi gwybod am unrhyw achosion drwy Borth Ar-lein TreeAlert a dilyn arfer da o ran bioddiogelwch Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut i ymarfer bioddiogelwch mewn coetiroedd: Cadwch y cyfan yn lân