CNC yn mynd i’r afael â gwaith anghyfreithlon ar afonydd i amddiffyn cymunedau yn ne Cymru

Wal wedi ei adeiladu ar ben amddiffynfa llifogydd

Mae camau gorfodi a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn erbyn y rhai sydd wedi gwneud gwaith o amgylch afonydd yn ne Cymru heb ganiatâd wedi helpu i leihau perygl llifogydd i bobl a bywyd gwyllt sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.

Mae angen i bobl wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd gan CNC os ydynt am wneud gwaith:

  • ar brif afon neu gerllaw
  • ar strwythur amddiffyn rhag llifogydd neu gerllaw
  • ar amddiffynfa forol neu gerllaw
  • mewn gorlifdir

Ers 2021, mae tîm arbenigol o fewn CNC, sydd â swyddog gorfodi penodedig, wedi ymchwilio i dros 100 o achosion ar draws de Cymru, gan ddangos ymrwymiad CNC i fynd i’r afael â gweithgareddau heb ganiatâd a allai gynyddu perygl llifogydd neu beri difrod i gynefinoedd sensitif.

Dull gorfodi CNC yw cynnal trafodaethau adeiladol gyda’r rhai sy’n torri’r rheolau er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad ar arferion cyfrifol i leihau’r peryglon hyn.

Fodd bynnag, mae angen ymyrryd mewn rhai achosion, er enghraifft drwy roi hysbysiadau gorfodi i adfer unrhyw effeithiau niweidiol a achosir gan y gweithgaredd heb ganiatâd. Efallai y bydd angen yr hysbysiadau gorfodi i sicrhau nad yw perygl llifogydd yn cynyddu i bobl ac eiddo, neu i wrthdroi niwed i'r amgylchedd.

Yn ne-orllewin Cymru, fe adeiladodd busnes sydd wedi’i leoli ger afon Tawe ym Mhontardawe wal flociau heb ganiatâd ar ben wal rheoli perygl llifogydd gan CNC.

Roedd y wal flociau, a adeiladwyd gan berchennog y busnes i wella diogelwch yr eiddo ar ôl achosion o dorri i mewn, yn bygwth cyfanrwydd yr amddiffynfa rhag llifogydd.

Bu CNC yn gweithio gyda nhw i sicrhau y câi’r wal ei thynnu’n ddiogel wrth sicrhau nad oedd yr amddiffyniad rhag llifogydd yn cael ei ddifrodi, a rhoddodd wybod iddynt am yr angen i gysylltu â CNC cyn gwneud unrhyw waith gerllaw’r cynllun llifogydd yn y dyfodol.

Yn ne-ddwyrain Cymru, fe dynnodd contractwr dunelli o waddod a graean o wely afon Ebwy ger Casnewydd heb ganiatâd, gan osod cerrig bloc yng nglannau’r afon.

Newidiodd hyn ddeinameg naturiol yr afon yn sylweddol, a byddai hynny wedi cael effaith ar y sianel i lawr yr afon pe na bai wedi’i gywiro. Fe achosodd hefyd ddifrod amgylcheddol, gan gynnwys i gynefin nythu i adar gwyllt.

Ar ôl darganfod y drosedd, gorchmynnodd CNC i’r contractwr atal y gwaith ar unwaith a rhoddodd Hysbysiadau Adfer.

Cydymffurfiodd y troseddwr â holl ofynion yr hysbysiad, gan gynnwys ailgyflwyno’r silt a’r graean i fyny’r afon mewn pentyrrau er mwyn caniatáu i’r afon ailddosbarthu’r deunydd yn naturiol.

Bu CNC hefyd yn ymchwilio i adroddiad o waith adeiladu heb ganiatâd ar lan afon Ddawan ger y Bont-faen.

Roedd perchennog eiddo wedi adeiladu arglawdd pridd o amgylch yr eiddo i amddiffyn rhag llifogydd, a hefyd wedi gosod pibell ollwng yng nglan yr afon ar gyfer draenio.

Roedd perygl y gallai’r arglawdd fod wedi dargyfeirio dŵr llifogydd a chynyddu perygl llifogydd i eiddo cyfagos.

Gweithredodd perchennog yr eiddo yn gyflym, gan gydymffurfio â Hysbysiad Adfer CNC a dychwelyd glan yr afon i’w chyflwr gwreiddiol.

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Rheoli Llifogydd a Dŵr:

“Mae ein gwaith gorfodi ar draws de Cymru yn amlygu pwysigrwydd rheoleiddio gweithgareddau perygl llifogydd.

“Ein nod yw addysgu, cynghori a rhoi arweiniad i droseddwyr ar yr un pryd â mynd i’r afael ag effeithiau gwaith a wneir heb ganiatâd, gan ddefnyddio amrywiaeth o gamau gorfodi i leihau’r risg i bobl a bywyd gwyllt.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan annatod o reoli perygl llifogydd, helpu byd natur i adfer a gwneud ein cymunedau’n fwy gwydn yn wyneb newid hinsawdd.”

Gydag 1 o bob 7 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn wynebu perygl llifogydd, a chyda’r argyfwng hinsawdd yn dod â mwy o dywydd eithafol, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwybod ac yn deall perygl llifogydd iddyn nhw.

Cyn cyfnod y gaeaf, mae CNC yn annog pobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n wynebu perygl llifogydd, ond nad ydynt wedi byw drwy lifogydd o’r blaen, i gymryd tri cham syml i helpu i amddiffyn eu cartrefi, eu heiddo a’u teuluoedd rhag effeithiau dinistriol llifogydd yn y dyfodol:

  • gwirio beth yw eich perygl llifogydd ar-lein yn ôl eich cod post ar wefan CNC
  • cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd o afonydd ac o’r môr, am ddim ac yn Gymraeg neu Saesneg
  • bod yn barod pan ragwelir llifogydd

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd