CNC yn mynd ar ôl arian twyll wedi datguddiad ymgyrch potsio 20 mlynedd yn yr Afon Teifi
Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gais ar 19 Ebrill i Lys y Goron Abertawe o dan y Ddeddf Enillion Troseddu (POCA) i atafaelu arian twyll a wnaed o ymgyrch 20 mlynedd o botsio yn yr Afon Teifi.
Mae'r cais yn ceisio atafaelu arian a wnaed gan Emlyn Rees o botsio pysgod yn yr Afon Teifi.
Llofnodwyd y cais gan y Barnwr a caiff gwrandawiad dedfrydu terfynol ei gynnal ar 1 Gorffennaf 2022.
Rees oedd arweinydd grŵp o wyth dyn a fu'n rhan o ymgyrch potsio 20 mlynedd yn yr Afon Teifi. Plediodd pump yn euog i gyhuddiadau pysgota anghyfreithlon yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 4 Ebrill.
Dywedodd Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC:
"Mae eogiaid a brithyllod y môr yn rhywogaethau eiconig yng Nghymru ac maent yn cael eu gwerthfawrogi gan bysgotwyr a'r cyhoedd yn ehangach fel dangosyddion o amgylchedd afonydd iach. Ond, yn syml, nid oes digon o bysgod yn dychwelyd i'n hafonydd i gynnal stociau ar eu lefelau presennol nac i atal dirywiad pellach.
"Mae statws cadwraeth eogiaid a brithyllod y môr yn golygu bod unrhyw bysgota anghyfreithlon yn fygythiad sylweddol i'r stociau bregus hynny. Er gwaethaf y gostyngiad yn eu niferoedd, mae'r achosion diweddar hyn yn dangos eu bod o hyd yn darged o weithgarwch anghyfreithlon yng Nghymru.
"Mae'r ymchwiliad hwn yn dangos sut mae CNC - gan weithio gyda'r heddlu lleol a chyda gwybodaeth gymunedol - yn gallu dal ac erlyn achosion o'r fath. Mae'r dirwyon a godir gan y llys hyd yn hyn hefyd yn dangos y canlyniadau ariannol difrifol y mae troseddwyr yn eu hwynebu os cânt eu dal."
Cafodd yr ymchwiliad ei sbarduno ar ôl i Swyddogion Gorfodi CNC batrolio rhan o Afon Teifi ger Cenarth a chanfod bod rhwyd giliau wedi'i gosod yn anghyfreithlon yn yr afon. Penderfynwyd monitro'r ardal dros nos.
Am 5am y bore wedyn, gwelwyd rhywun yn gwisgo dillad tywyll yn tynnu'r rhwyd yn ôl ac fe'i adnabyddwyd fel Emlyn Rees, person sy'n hysbys i'r swyddogion gorfodi ac sydd â thri euogfarn flaenorol am droseddau pysgota anghyfreithlon.
Er iddo ffoi drwy neidio i mewn i'r afon, cafodd ei arestio'n ddiweddarach, a chwiliwyd am ei gartref. Canlyniad y chwiliad oedd y sail ar gyfer gweddill yr ymchwiliad ac yn awgrymu ei gyd-ddiffynyddion.