CNC yn cyflwyno offeryn bandio tâl newydd
Bydd offeryn bandio taliadau newydd Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn disodli’r system OPRA bresennol ar gyfer cyfrifo taliadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau gosodiadau yn mynd yn fyw heddiw ar 22 Ionawr 2024.
Rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, bu CNC yn ymgynghori ar daliadau ceisiadau newydd ar gyfer nifer o’i gyfundrefnau gan gynnwys gosodiadau, er mwyn sicrhau bod y taliadau hyn yn adlewyrchiad cywir o’r gost o ddarparu’r broses ymgeisio.
Fel rhan o'r ymgynghoriad, cynigiwyd pedwar band codi tâl newydd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau. Roedd adborth a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad yn awgrymu bod defnyddwyr eisiau rhagor o wybodaeth am y pedwar band newydd a sut y byddent yn gwneud cais.
Mewn ymateb i’r adborth hwn, mae CNC wedi datblygu’r offeryn bandio newydd, a fydd yn haws i’w ddefnyddio ac yn fwy tryloyw nag OPRA a bydd yn sicrhau y bydd y taliadau newydd yn cyfateb i’r amser a gymerir i benderfynu ar bob cais ac yn adlewyrchu gwir gost prosesu’r cais.
Mae hyn yn wahanol i offeryn OPRA lle'r oedd ymgeiswyr yn talu swm yn seiliedig ar ffactor risg amgylcheddol ar gyfer y safle cyfan.
Meddai Mike Jones, Rheolwr Busnes Rheoleiddio:
“Yn gyntaf, hoffem ddiolch i'r rhai ohonoch a fu’n cyfrannu eich sylwadau drwy'r Grŵp Ymgynghorol Talwyr Taliadau a'r ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer yr offeryn bandio newydd.
“Rydym wedi ystyried eich sylwadau a byddwn yn cyhoeddi dogfen ymateb cyn bo hir i'n rhanddeiliaid wrth i ni fynd yn fyw heddiw gyda'r gradd bandio tâl newydd.
“Ar hyn o bryd, mae OPRA wedi cael ei dynnu’n ôl ar gyfer ceisiadau am drwyddedau ond bydd yn parhau yn ei le ar gyfer cyfrifo taliadau cynhaliaeth ar gyfer 2024/25. Bydd adolygu taliadau cynhaliaeth yn rhan o'n rhaglen waith yn y tymor hwy.
“Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am drwydded Gosodiadau Haen 3 rhwng 00:00 o'r gloch ar 22 Ionawr ddefnyddio’r offeryn bandio taliadau newydd ar ein gwefan i gyfrifo eu tâl ymgeisio.”