Swyddogion CNC yn anfon neges glir am pysgota eogiaid gwyllt
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r llysoedd wedi anfon neges glir na fydd pysgota eogiaid gwyllt yn anghyfreithlon yn afonydd Cymru yn cael ei oddef yn dilyn erlyn dau ddyn am droseddau pysgota.
Mae Carlos Davies a Mateusz Kakolewski o Aberhonddu wedi cael dirwy o fwy na £4,000 rhyngddynt yn Llys Ynadon Merthyr Tudful am pysgota eogiaid gwyllt ar Afon Wysg.
Ym mis Hydref 2020, cysylltodd aelodau o'r gymuned bysgota leol â Swyddog Gorfodi Pysgodfeydd CNC a rhoi gwybod iddo bod Davies a Kakolewski wedi postio delweddau ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn eu dangos yn dal tri eog marw.
Cynhaliwyd ymchwiliad, lle sefydlwyd bod y delweddau wedi'u tynnu ar lan dde Afon Wysg ychydig o dan bont y ffordd ddeuol y tu allan i Aberhonddu.
Gweithiodd Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd CNC ochr yn ochr â'u Swyddog Heddlu oedd ar secondiad o Heddlu Dyfed Powys a wnaeth gais llwyddiannus am warant chwilio ar gyfer cyfeiriadau cartref Davies a Kakolewski yn Aberhonddu i geisio cael tystiolaeth mewn perthynas â'r delweddau a bostiwyd.
Chwiliwyd eiddo Davies a Kakolewski, a chanfuwyd tystiolaeth a oedd yn cynnwys cytledi eogiaid, wyau pysgod ac offer pysgota. Cafodd y ddau ddyn eu cyfweld wedyn yng ngorsaf heddlu Aberhonddu a chawsant eu riportio gan CNC am droseddau mewn perthynas â physgodfeydd.
Cafodd y cytledi a'r wyau pysgod eu harchwilio’n fforensig a’u cofnodi gan wyddonydd pysgodfeydd CNC. Yn ddiweddarach, fe’u cyflwynwyd yn y llys fel tystiolaeth.
Ar 16 Chwefror 2022 yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd Mateusz Kakolewski yn euog i droseddau a oedd yn mynd yn groes i Ddeddf Eogiaid 1986, Adran 32 – Trin Eogiaid mewn Amgylchiadau Amheus a chafodd ddirwy o £2,134 gan gynnwys costau’r achos.
Methodd Carlos Davies ag ymddangos yn y llys ar ddyddiad gwreiddiol ei achos a chyhoeddwyd gwarant i’w arestio gan y llys. Yn y diwedd, ymddangosodd Davies gerbron ynadon ar 23 Chwefror 2022 ar ôl ildio i warant arestio a phledio'n euog i droseddau a oedd yn mynd yn groes i Ddeddf Eogiaid 1986, Adran 32 – Trin Eogiaid mewn Amgylchiadau Amheus a chafodd ddirwy o £2,134 hefyd gan gynnwys costau’r achos.
Meddai Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodi CNC ar gyfer Canolbarth Cymru:
"Mae erlyniadau Carlos Davies a Mateusz Kakolewski yn anfon neges glir na fydd pysgota eogiaid gwyllt yn anghyfreithlon yn afonydd Cymru yn cael ei oddef.
"Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017, ac Ymchwiliad yn 2019, cadarnhaodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, is-ddeddfau pysgota â gwiail a rhwydi sy'n sicrhau bod yn rhaid dychwelyd unrhyw eogiaid sy'n cael eu dal ym mhob afon yng Nghymru yn fyw i'r dŵr heb fawr o niwed ac yn ddi-oed. Mae'r ddeddfwriaeth hon bellach yn gwahardd lladd unrhyw eog mewn unrhyw afon yng Nghymru.
"Mae Swyddogion Gorfodi CNC, yr heddluoedd lleol a'r llysoedd yn cymryd achosion o droseddau bywyd gwyllt o ddifrif. Mae'r achos hwn yn dangos yr ymchwilir i unrhyw wybodaeth mewn perthynas â gweithgarwch anghyfreithlon, ac os caiff yr wybodaeth honno ei chadarnhau, y bydd troseddwyr yn cael eu herlyn.
"Hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed Powys, Sefydliad Gwy ac Wysg ac aelodau o'r gymuned bysgota leol am eu cymorth i wneud hyn yn erlyniad llwyddiannus."
Os gwelwch unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, ein llynnoedd a'n cronfeydd dŵr, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.
I gael gwybodaeth am bysgota yng Nghymru, ewch i wefan CNC: https://naturalresources.wales/days-out/things-to-do/fishing/?lang=cy