CNC yn pwysleisio neges ‘pwyllo cyn prynu’
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y cyhoedd i feddwl ddwywaith cyn ystyried prynu pysgod gan unigolion ac o safleoedd gwerthu cymdeithasol.
Daw'r neges ar adeg pan fo CNC yn clywed nifer gynyddol o adroddiadau a phryderon am bysgota anghyfreithlon ers i’r cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws gychwyn ddiwedd mis Mawrth.
Mae'n cynghori unrhyw un sy'n prynu brithyllod y môr i sicrhau bod y pysgod wedi'u tagio a’u bod wedi’u dal yn gyfreithlon o’r pysgodfeydd rhwydi trwyddedig.
Mae'n hawdd canfod pa bysgod y gellir eu prynu a'u gwerthu'n gyfreithlon.
Rhaid i unrhyw frithyll y môr sy’n cael ei ddal mewn pysgodfa rwydi drwyddedig fod â thag carcas wedi'i gysylltu drwy ei geg a'i dagellau. Rhaid cadw hwn ynghlwm nes y caiff y pysgodyn ei brosesu.
Cyflwynwyd y mesurau tagio carcasau hyn er mwyn brwydro yn erbyn pysgota anghyfreithlon ac i ddiogelu stociau pysgod sy'n agored i niwed.
Ni ddylid gwerthu unrhyw eogiaid gwyllt yng Nghymru.
Dywedodd Peter Gough, y Prif Gynghorydd Pysgodfeydd:
Mae poblogaethau eogiaid a rhai poblogaethau brithyllod y môr yn afonydd Cymru yn dirywio'n ddifrifol ac mae'n rhaid i ni wneud popeth a allwn i'w hachub ar gyfer y dyfodol.
Dyna pam rydym yn ystyried bod unrhyw weithgaredd sy'n eu bygwth yn fater hynod ddifrifol, ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
Er bod ein swyddogion yn gwneud popeth yn eu gallu i batrolio aberoedd ac afonydd Cymru gan gadw at y canllawiau o ran Covid-19, rydym yn gofyn i'r cyhoedd helpu yn y frwydr yn erbyn pysgota anghyfreithlon, gan warchod stociau eogiaid a brithyllod y môr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Os bydd rhywun yn cynnig pysgod i chi mewn amgylchiadau amheus neu os ydych chi'n gweld unrhyw weithgarwch amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, rhowch wybod amdano i linell gymorth ddigwyddiadau CNC, sef 0300 065 3000.
Rhaid i bob eog sy'n cael ei ddal gan bysgodfeydd rhwyd neu wialen gael ei ddychwelyd yn fyw â chyn lleied o anafiadau ag y bo modd, a heb oedi.
Mae trin eogiaid mewn amgylchiadau amheus yn drosedd i unrhyw berson sy'n cael neu sy'n gwaredu ag unrhyw eog mewn amgylchiadau lle mae’n credu, neu lle y gallai gredu’n rhesymol, fod yr eog neu’r brithyll môr wedi'i bysgota'n anghyfreithlon.