Cyfoeth Naturiol Cymru: Cofrestrwch i gael rhybuddion a ‘Barod am Lifogydd’ y gaeaf hwn

Llifogydd o Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i edrych i weld beth yw eu perygl o lifogydd ar-lein, cofrestru am ddim i gael rhybuddion llifogydd a bod yn ymwybodol o'r hyn y dylid ei wneud os rhagwelir y bydd llifogydd yn eu hardal y gaeaf hwn.

Daw'r alwad wrth i CNC lansio ei ymgyrch codi ymwybyddiaeth Barod am Lifogydd (7-11 Hydref), gyda'r bwriad o roi cyngor hanfodol am yr hyn y dylai pobl ei wneud os ydynt yn byw mewn ardal lle ceir perygl lifogydd.

Yn benodol, mae'n gobeithio annog y rhai sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd, ond nad ydynt wedi cael profiad o lifogydd o'r blaen, i gymryd camau nawr er mwyn helpu i ddiogelu eu cartref, eu heiddo a'u teulu rhag effeithiau dinistriol llifogydd yn y dyfodol.

Cafwyd cyfnod gwlyb a gwyntog yng Nghymru yn ystod yr hydref a'r gaeaf y llynedd. Cafodd 12 o stormydd eu henwi yn ystod tymor y stormydd yn 2023/24 – y nifer uchaf o stormydd a gafodd eu henwi ers y tymor cyntaf y rhoddwyd enw ar stormydd yn 2015. Cyrhaeddodd nifer ohonynt yn sydyn ar ôl ei gilydd, gan ddod â gwyntoedd cryfion a glaw mawr a wlychodd y tir, a lenwodd afonydd a oedd eisoes wedi chwyddo ac a achosodd i lifogydd effeithio ar y wlad gyfan.

Gydag 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru yn wynebu perygl llifogydd, a gyda mwy o dywydd eithafol yn sgil yr argyfwng hinsoddol, mae'n bwysicach nag erioed fod pobl yn gwybod ac yn deall beth yw eu perygl o lifogydd ac yn cymryd tri cham syml cyn i'r glaw ddechrau disgyn.

Ar hyn o bryd, gall cwsmeriaid bennu'r gwasanaeth y maent yn ei gael drwy gysylltu â Floodline. Fodd bynnag, yn ddiweddarach eleni, bydd pobl yn gallu mynd ar-lein i reoli eu cyfrifon eu hunain a phersonoli eu dewisiadau o ran rhybuddion – gan ddewis y negeseuon y maent am eu cael a nodi a ydynt am gael rhybuddion yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Byddant hefyd yn gallu dewis y dull cyfathrebu a ffefrir ganddynt, (e-bost, negeseuon llais neu negeseuon testun) a nodi ardaloedd eraill o ddiddordeb, fel ardal eu busnes neu gartref aelod o'r teulu, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd o lifogydd yn yr ardaloedd sydd o'r pwys mwyaf iddynt.

Yn ogystal ag edrych ar beryglon llifogydd a chofrestru i gael rhybuddion ar wefan CNC, gall pobl hefyd edrych ar y rhagolygon llifogydd 5 diwrnod ar gyfer ardaloedd o fewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gellir dod o hyd i gyngor ymarferol ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd, fel symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau a chadw eitemau allweddol, fel dogfennau pwysig a meddyginiaeth mewn pecyn llifogydd y gellir cael gafael arno'n hawdd.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Peryglon Llifogydd a Digwyddiadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

Rydyn ni'n clywed y geiriau, “Wnaiff hynny ddim digwydd i mi,” yn aml iawn, ond o ran llifogydd, gall meddylfryd o'r fath arwain at ganlyniadau difrifol. Gall llifogydd ddinistrio cartrefi, amharu ar fywoliaeth unigolion ac effeithio ar iechyd meddwl a llesiant yn barhaol.
Er nad ydyn ni'n gwybod sut dywydd a gawn y gaeaf hwn, bydd angen i bob un ohonom fod yn barod i gymryd camau lle bynnag y bo angen.  Wrth i ni lansio ein hwythnos Byddwch yn Barod am Lifogydd yng Nghymru, anogwn bawb i gymryd camau gweithredol i ddiogelu eich hunain a'ch anwyliaid rhag y perygl hwnnw. Dechreuwch drwy edrych ar eich perygl o lifogydd ar ein gwefan ac, os byddwch mewn perygl, cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth rhybudd am lifogydd am ddim a chreu cynllun llifogydd.

Wrth i'r hinsawdd gynhesu, rydym yn wynebu digwyddiadau tywydd eithafol yn amlach.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd:

Y ffordd orau o leihau unrhyw effeithiau yw bod yn barod am dywydd eithafol. Gall ychydig o gamau syml yn unig helpu aelwydydd i ymdopi â thywydd garw cymaint â phosibl ac atal effeithiau byrdymor a hirdymor. Mae edrych ar eich perygl o lifogydd a chofrestru i gael negeseuon llifogydd yn ogystal â rhybuddion tywydd yn gam cyntaf da er mwyn bod mor barod â phosibl at yr effeithiau tywydd posibl yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd CNC yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd os bydd afonydd a'r môr yn cyrraedd lefelau lle mae llifogydd yn bosibl neu'n ddisgwyliadwy, a bydd timau yn monitro ac yn rhagweld lefelau'r afonydd a'r môr ledled Cymru 24 awr y dydd.

Ceir tair lefel o rybuddion llifogydd:

Llifogydd – mae llifogydd yn bosibl ac yn fwyaf tebygol o effeithio ar deithio a thir hamdden (fel parciau) neu ffermdir. Byddwch yn barod i weithredu eich cynllun llifogydd, paratowch fag o eitemau hanfodol a monitro lefelau afonydd lleol a'r gwasanaeth rhybudd am lifogydd ar wefan CNC.

Rhybuddion Llifogydd – dylech ddisgwyl gweld llifogydd yn effeithio ar dai a busnesau. Gweithredwch drwy symud y teulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i le diogel, troi cyflenwadau nwy, trydan a dŵr i ffwrdd a rhoi cyfarpar diogelu rhag llifogydd yn ei le.

Rhybuddion Llifogydd Difrifol – ceir perygl o lifogydd difrifol a risg i fywyd. Efallai y bydd angen i rai cymunedau adael eu cartrefi a dylent ddilyn cyngor y gwasanaethau brys. Dylech ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Caiff y map perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru ei ddiweddaru ar wefan CNC bob dydd am 10:30 hefyd – ac yn amlach pan fydd y perygl o lifogydd yn gymedrol neu'n uchel. Mae'n rhoi asesiad o'r perygl llifogydd ar lefel awdurdod lleol ar gyfer y pum diwrnod nesaf ac yn sicrhau y bydd CNC, ei bartneriaid a'r cyhoedd yn cael amser gwerthfawr i gymryd camau paratoi er mwyn lleihau effeithiau llifogydd.

Caiff y tudalennau rhybuddion llifogydd eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud

Gall pobl hefyd edrych ar ddata ar lefelau afonydd, glawiad, a lefel y môr ar ein gwefan i weld sut y mae glaw trwm neu benllanw yn effeithio ar ardaloedd o'u hamgylch er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer unrhyw effeithiau posibl o ganlyniad i lifogydd.

Gellir cael gwybodaeth a diweddariadau drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 hefyd.