CNC i leihau gwaith torri gwair ym mis Mai i helpu peillwyr
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lleihau gwaith torri gwair gymaint â phosibl ar y tir sydd yn ei ofal yn ystod mis Mai i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac i gefnogi ymgyrch ‘Mai Di Dor’ Plantlife.
Mae graddfa a chyfradd y golled o ran bioamrywiaeth ledled Cymru yn cyflymu. Mae pob trydedd cegaid o fwyd byddwn ni’n ei fwyta wedi cael ei greu yn sgil peillio, a heb bryfed peillio byddai ein cyflenwad bwyd yn chwalu.
Mae hanner y 27 rhywogaeth o gacwn yn y DU yn prinhau, ac o’r 43 rhywogaeth o löyn byw a geir yng Nghymru, mae 10 yn prinhau’n ddifrifol ac 17 yn prinhau.
Mae nifer o resymau dros y gostyngiad mewn pryfed peillio, fel newid yn yr hinsawdd, llygredd a phlaladdwyr, a newid yn y ffordd y caiff tir ei reoli.
Drwy gydol y tymor tyfu, mae CNC yn torri glaswellt a llystyfiant mewn ardaloedd fel coedwigoedd, gwarchodfeydd natur, glannau afonydd, amddiffynfeydd rhag llifogydd ac argloddiau cronfeydd dŵr.
Bydd lleihau’r gwaith torri gwair ym mis Mai yn helpu bioamrywiaeth drwy ganiatáu i blanhigion y gwanwyn fwrw eu hadau a thyfu i ddarparu neithdar a phaill ar gyfer peillwyr, fel gwenyn a gloÿnnod byw.
Bydd CNC yn lleihau ei weithgareddau torri gwair ym mis Mai gymaint â phosibl, ond bydd gwaith torri gwair hanfodol yn parhau mewn rhai ardaloedd ledled Cymru.
Mae sawl rheswm am hyn, er enghraifft:
- rheoli mynediad at goedwigoedd a gwarchodfeydd natur i sicrhau bod pobl yn ddiogel pan fyddant yn ymweld.
- archwilio amddiffynfeydd rhag llifogydd a'u trwsio’n hawdd os oes angen, gan helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau.
- ar gyfer cadwraeth natur, er enghraifft i reoli rhywogaeth oresgynnol neu er budd rhywogaethau mewn ardal benodol drwy dorri'r llystyfiant.
Meddai David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau, Canol De Cymru, CNC:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu pobl a byd natur i ffynnu gyda'n gilydd.
“Byddwn yn lleihau ein gweithgareddau torri gwair ym mis Mai gymaint â phosibl i gefnogi pryfed peillio, ond rydym am i bobl ddeall y byddwn efallai’n cynnal gwaith torri gwair hanfodol er budd cymunedau neu rywogaethau penodol.
“Er enghraifft, efallai y byddwn yn parhau i dorri o amgylch amddiffynfeydd rhag llifogydd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn, neu pe bai torri gwair mewn rhai safleoedd ym mis Mai yn gadael i flodau gwyllt adfer a blodeuo drwy gydol yr haf a fyddai o fudd i rai peillwyr.
“Mae angen i ni weithredu nawr i amddiffyn ein peillwyr. Dyna pam rydym yn rheoli ein holl safleoedd i’w gwneud mor addas i bryfed peillio â phosibl ac i ddarparu bwyd a lloches i rywogaethau eraill.
“Mae yna bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i’w gwneud hi’n haws i bryfed peillio oroesi. Gall y rhain fod yn gymharol syml, fel rheoli lleiniau glas mewn ffordd fwy sensitif, neu adael ardaloedd gwyllt o amgylch ein swyddfeydd, ein cartrefi a’n hadeiladau cyhoeddus.
“Gallwn ni i gyd helpu trwy wneud ein gerddi’n addas i beillwyr trwy beidio â defnyddio plaladdwyr, peidio â thorri’r lawnt mor aml, a thyfu planhigion sy’n gyfeillgar i beillwyr.”
I gael gwybod mwy am sut y gallwch chi helpu i gefnogi pryfed peillio, ewch i dudalen Caru Peillwyr CNC neu ewch i wefan Plantlife i ddysgu am ymgyrch 'Mai Di Dor’.