CNC yn annog ffermwyr i adnewyddu eu hesemptiadau gwastraff wrth i ddyddiadau cau agosáu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynghori ffermwyr ac aelodau o’r diwydiant amaeth i sicrhau eu bod yn adnewyddu eu hesemptiadau gwastraff cyn iddynt ddod i ben yr haf hwn.
Mae angen i’r rhan fwyaf o ffermwyr gofrestru esemptiadau gwastraff gyda CNC er mwyn defnyddio gwastraff at ddibenion gweithgareddau ffermio cyffredin megis adeiladu llwybrau gyda rwbel, defnyddio teiars ar ben silwair neu losgi gwastraff ar ôl torri gwrychoedd. Mae angen cofrestru esemptiad ar gyfer y fferm am bob un o’r gweithgareddau hyn.
Gofynnir i ddeiliaid esemptiadau eu hadnewyddu bob tair blynedd gan fod eu cofrestriad yn dod i ben er mwyn parhau i reoli gwastraff yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
Mae esemptiad gwastraff yn galluogi deiliaid i gyflawni gweithgareddau rheoli gwastraff ar raddfa fechan gan gynnwys defnyddio, trin, storio a gwaredu gwastraff.
Nid oes cost ar gyfer ymgeisio am esemptiad, ac maent yn cynnwys amodau i osgoi difrodi’r amgylchedd.
Rydym ni’n annog ffermwyr i adnewyddu eu hesemptiadau gan ddefnyddio ein system ar-lein. Os mae’r esemptiadau ar fin dod i ben o fewn y mis nesaf, bydd yr opsiwn “adnewyddu” i’w weld.
Gall ffermwyr ddod o hyd i’w cofrestriad presennol ar y system trwy deipio enw’r fferm neu enw perchennog y fferm. Os nad yw’r manylion hynny ar gael ganddynt, gallant ddod o hyd iddynt ar ein cofrestr esemptiadau cyhoeddus.
Meddai Geraint Richards, cynghorydd arbenigol arweiniol ar bolisi gwastraff ar ran CNC:
“Mae cadw golwg ar y gweithgareddau gwastraff sy’n digwydd ledled Cymru a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n ddiogel yn rhan fawr o’n gwaith, ac mae sicrhau bod esemptiadau pobl a busnesau yn gyfredol yn help mawr wrth wneud hynny.
“Gellir adnewyddu esemptiad am ddim, ac mae’n llawer haws a chynt i wneud hynny na gorfod gwneud cais newydd os bydd eich esemptiad yn dod i ben.
“Mae’n amser prysur o’r flwyddyn i ni, felly rydym ni’n gofyn i unrhyw un y mae ei esemptiad ar fin dod i ben i fynd i’n gwefan i ddechrau ar y broses adnewyddu cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd ein ffonio ni ar 0300 065 3000 os oes angen cymorth arnoch i adnewyddu’r esemptiad.”