Gwaith partneriaeth yn helpu planhigyn prin mewn chwarel yn Sir Ddinbych
Mae planhigyn prin a ddarganfuwyd mewn chwarel yn Sir Ddinbych wedi cael hwb, diolch i waith partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Breedon Group.
Bydd siawns y maenhad gwyrddlas o ffynnu yn cael ei helpu ar ôl i Breedon Group, gyda chymorth gan CNC, helpu i nodi a chynllunio’r gwaith rheoli cadwraeth a gwblhawyd yn ddiweddar yn Chwarel Graig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Ninbych.
Roedd y gwaith yn cynnwys cwympo nifer fechan o goed heintiedig a oedd mewn perygl o syrthio ar y planhigyn prin. Roedd cwmpo’r coed yn caniatáu i fwy o olau dreiddio i’r coetir i leihau'r cysgod tywyll a oedd yn effeithio ar allu'r planhigyn i flodeuo. Gwnaed y gwaith ym mis Ionawr 2023.
Mae’r maenhad gwyrddlas yn blanhigyn prin sy’n tyfu ar gyrion coetiroedd, mewn pridd calchfaen. Mae wedi'i gyfyngu i nifer fechan o safleoedd, yn bennaf yn Ne Cymru a De Lloegr a chafwyd hyd iddo ar ymyl ogleddol ei gynefin naturiol yn SoDdGA Chwarel Graig. Mae'r planhigyn wedi'i ddosbarthu fel Mewn Perygl ar y Rhestr Goch yng Nghymru ac wedi'i restru'n genedlaethol brin ar draws Prydain.
Meddai Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Ddinbych:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Breedon am gwblhau’r gwaith a fydd yn rhoi hwb i amodau’r maenhad gwyrddlas yn SoDdGA Chwarel Graig.
“Dros amser, roedd coetir y safle wedi gordyfu ychydig, a gwyddom fod yn well gan y maenhad gwyrddlas gysgod ysgafn yn unig. Mae hyn yn ddilyniant i waith a wnaed rai blynyddoedd yn ôl i deneuo rywfaint ar y coetir er mwyn rhoi mwy o olau i'r planhigyn ac ers hynny mae’r planhigyn wedi cynhyrchu blodau a hadau. Gobeithiwn y bydd y gwaith a wnaeth Breedon o fudd pellach i’r planhigyn prin hwn dros y blynyddoedd nesaf.”
Meddai Maria Cotton, Rheolwr Cynllunio ac Ystadau yn Breedon Group:
“Yn Breedon mae gennym ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd ac un o'n hamcanion yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o bwys i'r amgylchedd.
“Mae hyn wedi bod yn gyfle ardderchog i weithio gyda CNC ac rydym yn hynod o falch o weld fod yr amodau wedi gwella i’r maenhad gwyrddlas yn y chwarel. Rydym yn edrych ymlaen at ddal ati i roi’r gefnogaeth hon yn y dyfodol.”