Bydd gwaith partneriaeth yn helpu i hybu niferoedd madfallod prin yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

madfallod dŵr cribog

Bydd prosiect adfer cyffrous rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) yn helpu i hybu niferoedd madfallod dŵr cribog yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.

Crëwyd rhwydwaith o chwe phwll newydd ym mis Chwefror eleni, a fydd yn helpu i adfer a chreu cynefinoedd bridio a chwilota am fwyd ar gyfer y rhywogaeth. Y llynedd, cafodd 4 pwll oedd yn bodoli eisoes eu hadfer yn y warchodfa.

Mae madfallod dŵr cribog yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop ac mae eu hwyau, eu safleoedd bridio, a’u mannau gorffwys yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Maen nhw dan fygythiad gan fod eu pyllau bridio yn cael eu colli o ganlyniad i ddinistrio neu ddirywiad yn ansawdd y dŵr, colli cynefinoedd ar y tir, a chynnydd mewn chwyn estron goresgynnol.

Roedd yn hysbys bod y madfallod yn arfer bridio ar un adeg mewn pwll bas ym Morlynnoedd Allteuryn yn y warchodfa. Ond yn 2021 a 2022 sychodd y pwll erbyn diwedd y gwanwyn, gan olygu y byddai'r larfa wedi marw cyn metamorffosis,

Y gobaith yw y bydd y rhwydwaith newydd o byllau yn helpu i hybu’r boblogaeth, yn ogystal â darparu cynefin gwerthfawr i rywogaethau eraill o amffibiaid a gweision y neidr.

Bydd y pyllau hefyd yn darparu cronfeydd dŵr yfed ar gyfer stoc fferm sy'n pori ar y warchodfa.

Gwnaed y gwaith gan y contractwr lleol Des Williams o gwmni Williams Contracting - teulu sydd wedi bod yn ffermio yn yr ardal ers cenedlaethau.

Meddai Kevin Boina M’Koubou Dupé, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae'n ardderchog gallu gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o ARC i allu gwneud y gwaith hwn i hybu madfallod dŵr cribog a phoblogaethau o amffibiaid eraill yng Ngwlyptiroedd Casnewydd.
Mae maint a chyfradd colli bioamrywiaeth ar draws y wlad yn cyflymu, a dyna pam y mae prosiectau partneriaeth fel hyn mor bwysig.
Bydd y pyllau newydd, a gwelliannau i’r pyllau presennol yn sicrhau cynefinoedd bwydo a bridio hollbwysig.
Trwy weithio gyda chydweithwyr o sefydliadau eraill ar brosiectau fel hyn, rydym yn helpu i wneud ein rhan i helpu bywyd gwyllt i ffynnu a chefnogi adferiad byd natur.

Meddai Peter Hill, Swyddog Cynefinoedd, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid:

Mae prosiectau cydweithredol fel hyn yn hanfodol er mwyn gallu hybu poblogaethau o rywogaethau sy'n dirywio - fel y fadfall gribog fawr. 
Wrth i'r pyllau sydd newydd eu hadfer a'u creu o’r newydd aeddfedu, ac wrth i blanhigion a chreaduriaid sefydlu eu hunain, bydd y coridor newydd o gyfleoedd i borthi a bridio yn caniatáu i boblogaeth gryfach o fadfallod sefydlu eu hunain - a’r boblogaeth honno’n un fwy gwydn, ac yn fwy parod am yr heriau a'r bygythiadau niferus sy’n wynebu amffibiaid yn y Gymru fodern.
Mae lefelau’r madfallod sy’n cael eu creu’n llwyddiannus yn debygol o fod wedi codi eisoes, a chan fod cam cyntaf y prosiect yn adfer pyllau oedd yn bodoli eisoes, bydd cwblhau'r ail gam hwn, gan greu pyllau newydd mewn lleoliadau strategol, yn ‘cyfuno'r dotiau’ fel petai, ac yn darparu cyfleoedd i rywogaethau sy'n dirywio'n genedlaethol ffynnu ac amlhau.
Mae prosiectau fel hyn yn rhan o weithgarwch ‘rheng flaen’ y rhaglen adfer natur.

Dywedodd Des Williams o Williams Contracting:

Ces i fy ngeni a fy magu yma - ac rwy’n dal i fyw a gweithio ar Wastadeddau Gwent. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn bywyd gwyllt, felly mae wedi bod yn braf iawn bod yn rhan o'r prosiect hwn. Rwyf wedi bod yn gontractwr amaethyddol ar hyd fy ngyrfa. Dyma'r pyllau cyntaf i mi eu cloddio. Dwi wedi cloddio digon o ffosydd - ond byth pyllau. Mae sawl pwll yn yr ardal a gafodd eu cloddio â llaw - gan mlynedd yn ôl, efallai. Mae’n dda cael cloddio pyllau newydd a fydd yn helpu madfallod dŵr cribog a bywyd gwyllt yn gyffredinol.