Amrywiad trwydded wedi'i gyhoeddi ar gyfer cyfleuster trosglwyddo gwastraff yng Nghaerffili
Heddiw (Dydd Iau 13 Hydref) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi amrywiad i drwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleuster trosglwyddo gwastraff ar safle diwydiannol Pwynt Naw Milltir yng Nghaerffili.
Cyflwynwyd y cais gan Drumcastle Ltd ym mis Tachwedd y llynedd a bydd yn caniatáu i'r gweithredwr gael gwared ar yr hylosgiad o nwy naturiol sy'n cael ei ddefnyddio i sychu gwastraff.
Bydd hefyd yn caniatáu gosod hidlydd carbon awyredig, gan helpu i leihau'r arogleuon posibl a ryddheir o'r safle.
Roedd gan Drumcastle Limited drwydded amgylcheddol eisoes yn caniatáu iddynt drin gwastraff cartref, masnachol a diwydiannol nad yw'n beryglus i gynhyrchu tanwydd solet wedi'i adfer a thanwydd sy'n deillio o sbwriel.
Daw’r penderfyniad i gyhoeddi’r amrywiad i drwydded yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ebrill a mis Medi eleni.
Yn dilyn asesiad trylwyr o'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeiswyr a'r ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd, mae CNC yn fodlon y gall y cwmni wneud y newidiadau heb effeithio'n andwyol ar bobl leol na'r amgylchedd.
Roedd penderfyniad y cais yn cynnwys ystod o asesiadau gan gynnwys llygredd sŵn ac arogl.
Dywedodd Jon Goldsworthy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydym yn gwerthfawrogi bod gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau ar y cyfleuster gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir a hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu dweud.
Ar ôl edrych yn ofalus ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y cais a’r ymgynghoriad, rydym yn hyderus bod yr amrywiad i’r drwydded yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, a gall y gweithredwr gyflawni’r gweithgaredd heb risg sylweddol i’r amgylchedd nac iechyd dynol.
Gallwch weld y ddogfen penderfyniad ar y gofrestr gyhoeddus: Cofrestr gyhoeddus - Porth y Cwsmer (naturalresources.wales)