Mae’r prosiect yn helpu i gyflwyno buddion lluosog i fyd natur a ffermio yn Sir Fynwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill yn Sir Fynwy i ddarparu atebion seiliedig ar natur a fydd yn cefnogi arferion amaethyddol cynaliadwy, gwella ecosystemau lleol, a gwella ansawdd dŵr mewn afonydd lleol.
Gall y ffordd y defnyddir tir arwain at lefelau uchel o erydiad a phridd yn llifo i nentydd ac afonydd cyfagos. Gall hyn fygu gwelyau graean afonydd a lleihau cynefin silio hanfodol i bysgod.
Mae Prosiect Dalgylch Cyfle Canol Sir Fynwy yn defnyddio ystod o atebion naturiol hirdymor, a fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr yn nalgylchoedd Afonydd Wysg ac Afon Gwy a chynyddu gwytnwch ecosystemau lleol.
Gallai’r atebion sy’n seiliedig ar natur gyflwyno llu o fanteision i ffermwyr gan gynnwys pridd iachach, gwell rheolaeth ar bori, a hybu iechyd anifeiliaid, gan helpu i gefnogi system ffermio gydnerth.
Yn Glen Farm yn Sir Fynwy, mae 400 metr o wrychoedd newydd o rywogaethau cymysg eisoes wedi eu plannu, yn ogystal â choed ychwanegol o fewn bloc coedwig ac ar hyd y cwrs dŵr, gan ddod i gyfanswm o 2,500 o blanhigion. Ar ben hynny, gosodwyd 780 metr o ffensys i amddiffyn coridor glan yr afon a’r ardaloedd sydd newydd eu plannu.
Bydd y gwelliannau hyn yn helpu’r ffermwr i reoli ei dda byw, yn ogystal â diogelu 200m o gwrs dŵr sy’n llifo drwy’r daliad ac sy’n un o lednentydd Afon Mynwy.
Bydd y ffensys yn atal da byw rhag mynd i mewn i’r afon ac yn lleihau’r perygl o erydiad pridd o’r arglawdd a all achosi crynodiadau uchel o waddod yn y cwrs dŵr.
Bydd lleihau pridd yn y dŵr yn helpu i warchod ansawdd gwelyau graean, gan ddiogelu safleoedd silio pysgod. Bydd y parth clustogi a fydd yn cael ei greu gan y ffensys hefyd yn helpu i wella ansawdd dŵr drwy weithredu fel llain hidlo, gan arafu llif y dŵr, a lleihau dŵr ffo sy’n cynnwys maetholion, yn ogystal â gwella’r cynefin ar gyfer dyfrgwn sydd wedi’u cofnodi yn yr ardal.
Mae cymysgedd o goed Cyll, Derw, Bedw, Afalau Surion, Gwern a Chriafol wedi’u plannu ar y fferm – a bydd hyn yn helpu i atal dŵr ffo a chynyddu ymdreiddiad i’r ddaear. Bydd hyn yn cyfyngu ar yr effaith ar weddill y ffermdir, ac ar yr un pryd yn darparu cysgod i fywyd yn yr afon a lloches i dda byw mewn tywydd garw.
Bydd y coed hefyd yn cloi carbon, gan helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd a chynyddu cysylltedd cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau lleol fel ystlumod a phathewod.
Meddai Ed Davies, Uwch Swyddog Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ar y prosiect hwn, sy'n defnyddio prosesau naturiol i helpu i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar ansawdd dŵr, newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a phrinder dŵr.
Bydd rhoi atebion seiliedig ar natur ar waith ar ffermdir, megis defnyddio llystyfiant naturiol i hidlo dŵr, plannu coed i amsugno carbon deuocsid, neu adfer gwlyptiroedd i atal llifogydd yn helpu i feithrin amgylchedd iachach a mwy gwydn. Mae’r prosiect yn rhan o’n gwaith ehangach i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae gan bawb sy’n byw ac yn gweithio o fewn ein dalgylchoedd afon ran i’w chwarae mewn diogelu a gwella’r amgylchedd. Mae angen i ni gydweithio i ddylunio datblygiadau a defnyddio tir, a hefyd ystyried beth allwn ei wneud yn ein bywyd bob dydd i leihau’r effaith a gawn ar y byd naturiol.
Scott Millar, perchennog Glen Farm:
Rwy’n fodlon iawn gyda’r prosiect, bydd yn fy helpu i reoli fy nhrefniadau pori a bydd yn darparu lloches i’r da byw yn ogystal â gwella bioamrywiaeth ar y tir a bydd yn helpu o ran ansawdd dŵr/draeniad.
Mewn mannau eraill, mae gwaith hefyd wedi’i wneud ar y cyd ar Grange Farm yn Nhrefynwy gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i greu rhwystrau sy’n gollwng yn un o lednentydd dalgylch Nant Llymon, sy’n llifo drwy’r daliad.
Mae’r rhwystrau’n helpu i ddal dŵr yn ôl o fewn y sianel ac annog dŵr i arllwys dros y glannau yn ystod cyfnodau o law trwm, gan leihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon trwy storio dŵr dros dro ac arafu’r llif i lawr yr afon.
Mae rhwystrau sy'n gollwng hefyd yn darparu amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac wedi'u gosod uwchlaw lefel arferol y nant, felly nid yw llif sylfaenol a symudiad pysgod yn cael eu rhwystro.
Mae prosiect Dalgylch Cyfle Canolbarth Sir Fynwy yn cael ei ariannu drwy Raglen Cyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.