Rhostir prin yn adfywio ar ôl cwympo coed yng nghoedwig Hensol
Mae gwaith ar y gweill i adfer cynefin prin yng nghoedwig Hensol ym Mro Morgannwg.
Mae rhostir iseldir yn gynefin prin a dan fygythiad a geir yn bennaf yng ngogledd-orllewin Ewrop sy’n cynnwys grug, eithin a glaswellt.
Mae'r DU wedi colli 80% o'r cynefin pwysig hwn yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ond mae'n dal i fod yn gartref i 20% o rostir iseldir y byd.
Dim ond yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr y ceir rhostir iseldir llaith, sy'n datblygu mewn amgylcheddau mwynach a gwlypach. Mae'n gartref i rai planhigion sy'n brin ar draws y wlad, fel yr hesgen ddeulasnod a maeswellt gwrychog, ac yn cynnal llawer o bryfed, ymlusgiaid ac adar sy'n nythu ar y ddaear.
Yn anffodus, mae'r cynefin arbennig hwn dan fygythiad gan ystod o ffactorau megis datblygu, hamdden, arferion anaddas i reoli safleoedd, tanau gwyllt a llygredd.
Plannwyd coedwig Hensol fel coedwig fasnachol i ailgyflenwi stociau pren ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, a phan gwympwyd ardal o’r goedwig yn 2020 oherwydd coed llarwydd heintiedig, dechreuodd y dirwedd adfywio'n naturiol.
Canfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n rheoli coedwig Hensol blanhigion rhostir prin yn tyfu, rhai o hadau yn y pridd a allai fod wedi bod yn segur am fwy na 60 mlynedd.
Ar ôl dod o hyd i'r planhigion prin hyn yn tyfu, penderfynodd y swyddogion adfer yr hen rostir yn hytrach nag ailblannu'r ardal gyda choed. Maen nhw wedi cael gwared â gwastraff ar ôl cwympo a byddant yn rheoli prysgwydd nes bod planhigion rhostir wedi sefydlu.
Dywedodd Liz Hancocks, Uwch Swyddog - Pobl a Lleoedd CNC:
"Mae colli cynefinoedd blaenorol wedi cyfrannu at yr argyfwng natur rydyn ni’n ei weld heddiw. Mae angen i ni sicrhau bod y cynefinoedd rydym yn eu rheoli ar gyfer ein bywyd gwyllt a'n cymunedau yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.
"Os ydym am barhau i weld rhostir iseldir fel rhan o dirwedd amrywiol yng Nghymru, mae angen i ni reoli ac adfer ardaloedd fel hyn yng nghoedwig Hensol ac ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
"Mae ein harbenigwyr o'r farn y bydd y rhostir yn adfer dros y blynyddoedd nesaf gyda rheolaeth ofalus a chaniatáu i’r gwely hadau segur adfywio, gan greu cynefin hanfodol i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin.
"Mae'n gyfraniad bach ond pwysig i adferiad natur yng Nghymru."
Ariannwyd y gwaith yn 2022/23 gan gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru - rhaglen tair blynedd sy'n anelu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru trwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau.
Am ragor o wybodaeth ewch i Rhwydweithiau Natur.