Gofyn i drigolion am farn ar gynllun i reoli coedwigoedd yn gynaliadwy ger Rhaeadr Gwy
Mae trigolion ardal Bwlch y Sarnau ac Abbeycwmhir ger Rhaeadr Gwy yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynllun newydd i reoli Bloc Coedwig Coed Sarnau yn yr ardal.
Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ledled Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ganiatáu i farn trigolion ddylanwadu ar reolaeth y goedwig yn y dyfodol am y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Mae prif amcanion y cynllun yn cynnwys tynnu coed llarwydd ac amrywio rhywogaethau’r coedwigoedd er mwyn cynyddu’u gwytnwch yn erbyn plâu, gan greu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cynllun hefyd yn bwriadu gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn ddymunol.
Dywedodd Becky Hares, Uwch Swyddog Rheoli Tir ar gyfer CNC:
"Mae coedwigoedd a reolir yn dda o fudd i bawb a phopeth; o fioamrywiaeth a'r amgylchedd i'r economi a diwylliant. Yn y cynllun hwn, rydym am i drigolion yr ardal ddweud eu dweud ar ein cynlluniau i barhau i reoli coedwigoedd yn gynaliadwy o fewn bloc y goedwig.
"Rydym yn annog trigolion i gael golwg ar y cynlluniau a dweud eu dweud arnynt."
Gall preswylwyr ddod o hyd i'r cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad drwy fynd i wefan ymgynghori CNC.
Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriadau. Byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.
Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes Powell, Lôn Powell, Y Trallwng, Powys, SY21 7JY.
Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 20 Chwefror 2022 fan bellaf.