Twyni tywod yn cael hwb ar safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar Ynys Môn
Mae gwaith dros dymor y gaeaf i helpu i gadw twyni tywod a chynefin coedwig ar Ynys Môn yn iach bellach wedi'i gwblhau.
Nod Twyni Byw, prosiect cadwraeth a ariennir gan yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yw adfywio twyni tywod ledled Cymru.
Yn ystod gwaith y gaeaf yn Niwbwrch, crafwyd tua 0.36 hectar o’r twyni yn Pant y Gwylan - un o'r llennyrch agored isel yn y goedwig ger Twyni Penrhos. Mae crafu llystyfiant sydd wedi gordyfu yn helpu i ddod a tywod noeth i’r agored a chreu mwy o gynefin llaith ar gyfer planhigion ac infertebratau.
Ymhlith tasgau eraill y gaeaf a gwblhawyd yn Niwbwrch roedd torri llystyfiant mewn ardal 5 hectar, adfywio llaciau twyni mewn ardal 2.2 hectar, tynnu bonion mewn ardal 0.3 hectar a chael gwared â rhywogaethau estron goresgynnol a phrysgwydd brodorol mewn ardal oddeutu 20 hectar.
Fe wnaeth contractwyr ar ran y prosiect glirio barf-yr-hen-ŵr a phrysgwydd estron goresgynnol hefyd ar ffin Afon Cefni â Choedwig Niwbwrch. Mae hyn yn caniatáu i adfywiad naturiol prysgwydd helyg a gwern brodorol greu pont naturiol rhwng cynefin agored a choetir.
Gwnaethwyd gwaith pwysig hefyd i gael gwared ar brysgwydd yn llennyrch Pyllau Ffrydiau, Cerrig Duon, Pant y Fuches a Phant Mawr, gan gynnwys cael gwared ar ardal o fambŵ goresgynnol, sy'n rhywogaeth estron. Bydd y gwaith hwn yn cadw’r llennyrch yn fannau heulog, agored yn y goedwig ac yn creu mwy o le i blanhigion brodorol sy'n tyfu'n isel gael ffynnu, gan gynnwys tafolen y traeth, sydd mewn perygl.
Dywedodd Leigh Denyer, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw yn y Gogledd:
"Mae Coedwig a Thywyn Niwbwrch yn lle mor wych ac mae tîm Twyni Byw yn hapus iawn o fod wedi gallu rhoi hwb mawr ei angen i'r cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig yno dros fisoedd y gaeaf.
"Er y gall crafu llaciau’r twyni swnio ac edrych yn eithafol i ddechrau, mae ein gwaith yn hanfodol i helpu i ail-greu cynefin tywod noeth sydd wedi bod yn diflannu'n raddol o'n harfordiroedd dros y blynyddoedd.
"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith, gan gynnwys cydweithwyr yn CNC a'n contractwyr GMD Limited, Tir a Choed, Gwalch Cyf ac AJ Butler. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau ein gwaith dros y blynyddoedd i ddod."
Mae Twyni Byw yn adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru. Mae'r prosiect yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022. Mae gwaith gaeaf ar wahân ar gyfer prosiect Twyni Byw wedi’i wneud mewn wyth safle arall ledled Cymru i roi hwb pellach i'r cynefin arbennig hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Twyni Byw, anfonwch e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ewch i'r tudalennau Twitter a Facebook, @TwyniByw.