Ail gollfarn am hel cocos yn anghyfreithlon yng Nghilfach Tywyn
Mae ail ddyn wedi’i gael yn euog mewn llys am weithgaredd hel cocos anghyfreithlon ym Mhysgodfa Gocos Cilfach Tywyn.
Cafodd Mark Swistun, 50 oed o Lanmorlais ddirwy o gyfanswm o £2,719 am hel cocos yng Nghilfach Tywyn tra’i fod wedi’i wahardd rhag gwneud hynny.
Cafodd ei wahardd dros dro rhag casglu cocos ym mis Mai 2019 am fethu â chydymffurfio ag amodau a osodwyd yn ei drwydded hel cocos. Er y gwaharddiad yma, parhaodd i hel cocos.
Cymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n gyfrifol am reoleiddio Pysgodfa Cocos Cilfach Tywyn, gamau yn erbyn Swistun ac fe'i gwysiwyd i'r llys.
Fe’i cafwyd yn euog gan Lys yr Ynadon Llanelli ddydd Mawrth, 3 Mawrth.
Cafwyd dyn o Lwynhendy yn euog o gasglu cocos heb drwydded ar 31 Ionawr.
Dywedodd Andrea Winterto, Rheolwr Gwasanaethau Morol, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Y gollfarn hon yw'r ail ar gyfer Cilfach Tywyn mewn cynifer o fisoedd. Mae hyn yn dangos ein bod yn cymryd ein cyfrifoldeb rheoleiddio am yr ardal ac am hel cocos o ddifrif.
"Mae torri amodau trwydded ac anwybyddu atal trwydded yn tanseilio'r posibilrwydd o reoleiddio'r bysgodfa yn effeithiol. Mae amodau'r drwydded yn eu lle i ddiogelu cynaliadwyedd poblogaeth gocos Cilfach Tywyn yn y dyfodol."
Mae CNC yn rheoli'r bysgodfa gocos yng Nghilfach Tywyn er mwyn cynnal y cydbwysedd main rhwng anghenion yr economi leol a bywyd gwyllt gwarchodedig yr ardal.
Mae trwyddedu’r ardal yn rhoi mesurau ar waith i ddiogelu'r cynefin ac i sicrhau dyfodol y bysgodfa. Mae delio â hel cocos yn anghyfreithlon yn barhaus yn helpu i gynnal pysgodfa ddichonadwy a chynaliadwy.
Ar hyn o bryd, mae 36 o gasglwyr cocos trwyddedig sy'n gallu pysgota'n gynaliadwy yng Nghilfach Tywyn. Mae 61 o bobl ar restr aros.
Rhaid bod gan unrhyw un sydd eisiau casglu cocos o fewn Pysgodfa Cilfach Tywyn drwydded ddilys.
Yr unig eithriad yw ardal rhwng Llanrhidian Pill yn y De a Doc Llanelli yn y Gogledd, lle gall pobl gasglu uchafswm o 8kg y dydd heb drwydded ar gyfer eu bwyta'n bersonol.
Darganfyddwch fwy am Bysgodfa Gocos Cilfach Tywyn.
I roi gwybod am bryderon ynghylch casglu cocos yn anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth CNC ar 0300 065 3000 24 awr y dydd.