Rhan o Barc Coedwig Afan ar gau i ganiatáu cwympo coed sydd wedi'u heintio yn ddiogel
Bydd ffordd goedwig Rhyslyn a maes parcio Rhyslyn ar gau o ddydd Llun i ddydd Gwener am hyd at 12 wythnos i ganiatáu i goed sydd wedi'u halogi â Dothistroma septosporum (malltod nodwyddau bandiau coch) gael eu torri’n ddiogel.
Gall y clefyd hwn ledaenu i goed eraill a gall eu lladd yn y pen draw, ond nid yw'n niweidiol i bobl.
Cafodd cynlluniau cwympo a gweithdrefnau diogelwch eu hadolygu yn dilyn digwyddiad anghyffredin yn ystod gwaith cynaeafu diweddar. Roedd coeden wedi cwympo ar ben ffordd y goedwig yr oedd aelod o'r cyhoedd yn cerdded ar ei hyd. Ni chafodd neb ei anafu, ond mae addasiadau ychwanegol wedi'u gwneud ers hynny i sicrhau diogelwch ymwelwyr a chontractwyr.
Dywedodd Claudia Robins, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig, o CNC:
“Rydym ni yn CNC yn gweithio'n galed i gydbwyso gofynion iechyd a diogelwch coedwig weithredol, gyda'r manteision hamdden y mae’r goedwig yn eu cynnig i’r holl ymwelwyr, p’un a ydynt yn gerddwyr, yn rhedwyr, yn farchogwyr neu’n feicwyr mynydd.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad eithriadol. Byddai'n annhebygol iawn o ddigwydd eto ac rydym yn falch iawn na chafodd neb ei anafu.
"Mae'n rhaid i ddiogelwch ymwelwyr gael blaenoriaeth bob amser, gan ein gadael heb unrhyw ddewis arall ond cau'r ffordd a'r maes parcio cyfagos i fod yn gwbl fodlon y gall gwaith cwympo coed ddigwydd yn ddiogel.
“Mae amseriad y cau hwn yn anffodus gyda phobl yn awyddus eu hamser hamdden haf ym Mharc Coedwig Afan. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y gwaith cynaeafu hwn yn mynd rhagddo i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith a gaiff hyn ar weddill y goedwig.
“Rwy’n annog ymwelwyr i gadw at yr arwyddion cau a’r dargyfeiriadau sydd ar waith er eu diogelwch eu hunain. Bydd hwn yn safle gweithredol byw a allai fod yn beryglus os caiff arwyddion eu hanwybyddu.”
Bydd ffordd a maes parcio Rhyslyn ar gau o ddydd Llun 28 Mehefin. Effeithir hefyd ar rai llwybrau cerdded a beicio mynydd.
Bydd arwyddion clir yn dangos yr holl rannau sydd ar gau a’r dargyfeiriadau a bydd rhwystrau yn eu lle.
Bydd maes parcio dros dro amgen ar gael yn Nhymaen yn agos i Ganolfan Ymwelwyr Afan. Mae meysydd parcio eraill ar gael hefyd ym mhyllau Glyncorrwg.
Bydd maes parcio Rhyslyn ar agor ar benwythnosau, ond bydd y ffordd ei hun yn aros ar gau gyda gwyriad amgen ar draws y bont gyfagos sydd ond yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Bydd cynorthwywyd yn helpu i reoli traffig ar y safle saith diwrnod yr wythnos.
Bydd yr ardal sy'n cael ei chwympo ar hyn o bryd yn cael ei hailblannu â chymysgedd o rywogaethau conwydd a llydanddail yn ystod gaeaf 2023/2024.
Gellir dod o hyd i wybodaeth a mapiau sy'n dangos pa lwybrau yr effeithir arnynt a'r dargyfeiriadau a'r cau sydd ar waith ar dudalennau gwe Parc Coedwig Afan CNC.